Ardystiad gan y swyddog prisio priodol11

1

Rhaid i'r swyddog prisio priodol ardystio gwerth at ddibenion A yn rheoliad 2(1) y dylid ei roi, ym marn y swyddog prisio, yn lle'r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ar 1 Ebrill 2000 cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau sy'n galw am yr ardystiad ddod i sylw'r swyddog prisio (p'un ai yn rhinwedd cais gan yr awdurdod bilio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r sawl dan sylw sy'n talu'r ardrethi , neu fel arall).

2

Pan fydd y swyddog prisio priodol, p'un ai oherwydd penderfyniad tribiwnlys prisio neu fel arall, yn dod i'r farn bod ardystiad o dan unrhyw un o ddarpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn (heblaw ardystiad o'r fath a gadarnhawyd yn dilyn apêl) yn anghywir, rhaid i'r swyddog prisio ardystio'r gwerth, ym marn y swyddog prisio, y dylid ei roi yn lle'r gwerth a ardystiwyd yn wreiddiol.

3

Bydd i ardystiad o dan baragraff (2) effaith at ddibenion darpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn yn lle'r ardystiad blaenorol, a bernir y bydd unrhyw apêl yn erbyn yr ardystiad blaenorol o dan reoliad 12 o'r Rheoliadau hyn wedi'i dynnu'n ôl.

4

Rhaid i'r swyddog prisio sy'n ardystio gwerth yn unol â'r Rheoliadau hyn anfon copi o'r ardystiad :

a

i'r awdurdod bilio dan sylw, neu, i'r graddau y mae'n ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 54 o'r Ddeddf, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a

b

ac eithrio yn achos ardystiad o dan reoliad 4(3)(c)(i) y sawl dan sylw sy'n talu'r ardrethi.

5

Rhaid anfon gyda'r copi o ardystiad a anfonwyd at y sawl sy'n talu'r ardrethi yn unol â pharagraff (4) uchod ddatganiad o effaith, mewn perthynas â'r ardystiad :

a

rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn; a

b

paragraff (3) uchod, pan fo'n ardystiad o dan baragraff (2) uchod, a gellir ei anfon i gyfeiriad hysbys diwethaf y sawl sy'n talu'r ardrethi neu i gyfeiriad yr hereditament dan sylw.

6

Rhaid i'r swyddog prisio sy'n ardystio gwerth yn unol â'r Rheoliadau hyn gadw'r ardystiad ac fe gaiff person ei archwilio ar unrhyw adeg resymol.

7

Pan fydd y swyddog prisio priodol yn ardystio gwerth ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod bilio gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 8 a 10 gan roi sylw i'r ardystiad.