(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y cyfnod o dair blynedd yn dechrau ar 1af Ebrill 2000, y swm y gellir ei godi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w dalu o dan amgylchiadau penodol mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”). Maent yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r swm y gellir ei godi yn lle adrannau 43,45 neu 54 o Ddeddf 1988. Maent yn darparu hefyd ynghylch ardystio gwerthoedd ardrethol gan swyddogion prisio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostwng y swm y gellir ei godi neu ar gyfer cyfrifo'r swm y gellir ei godi pan fydd yr hereditament dan sylw yn cael ei ddangos ar restr leol neu ganolog (gweler adrannau 42 a 53 o Ddeddf 1988) a bod amodau penodol yn cael eu bodloni.

Mae rheoliad 4 yn diffinio'r hereditamentau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt ac mae Rheoliadau 5 a 6 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y fformwlâu yn Rheoliadau 8 a 9.

Mae Rheoliad 7 yn pennu'r amodau pan fydd Rheoliad 8 yn gymwys. Mae Rheoliad 8 yn pennu'r gostyngiadau a wneir yn y swm y gellir ei godi o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rheoliad 9 yn pennu'r amgylchiadau pan fydd Rheoliad 10 yn gymwys.Mae rheoliad 10 yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu'r swm y gellir ei godi mewn achosion penodol sydd wedi'u diffinio. Mae'n cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd ariannol 2000, 2001 a 2002 o'i gymharu â'r swm y gellir ei godi ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill 2000.

Mae rheoliad 11 yn darparu ynglŷn ag ardystio gwerthoedd penodol y mae angen eu hardystio o dan y Rheoliadau gan y swyddog prisio priodol (a ddiffinnir yn rheoliad 2). Mae rheoliad 12 yn darparu ynglŷn ag apelau yn erbyn ardystiadau.