1999 Rhif 3454 (Cy.51)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 1999.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn:

  • Ystyr “A” (“A”) yw'r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer hereditament ar restr ar 1 Ebrill 2000 neu'r gwerth a ardystir gan y swyddog prisio priodol fel y gwerth ardrethol a fyddai wedi bod yn gymwys i'r hereditament ar 1 Ebrill 2000;

  • mae i “atebolrwydd sylfaenol” (“BL”) >(“base liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

  • ystyr “B” (“B”) yw'r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn berthnasol;

  • mae i “flwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2);

  • ystyr “C” (“C”) yw'r gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer y diwrnod perthnasol;

  • mae i “gyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);

  • ystyr “y Ddeddf(“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • mae i “ddiwrnod perthnasol” (“relevant day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(3);

  • mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • mae i “hereditatment y Goron” (“Crown hereditament”) yr un ystyr ag sydd i “Crown hereditament” yn adran 65A (4) o'r Ddeddf 3;

  • mae i “person â buddiant” (“interested person”) yr un ystyr ag sydd i “interested person” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993 4

  • mae i “person dynodedig” (“designated person”) yr un ystyr ac sydd iddo yn Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 5;

  • ystyr “rhestr” (“list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig leol berthnasol neu restr sy'n cael ei llunio a'i chadw'n unol ag adran 53 o'r Ddeddf;

  • mae i “swm tybiannol y gellir ei godi”(“NCA”) >(“notional chargeable amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;

  • ystyr “swyddog prisio priodol” (“appropriate valuation officer”)

    1. a

      mewn perthynas â hereditament y mae rheoliadau o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (cynnwys y rhestri canolog) mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio canolog;

    2. b

      mewn perthynas â hereditament nad oes unrhyw reoliadau o'r fath mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio sy'n cadw'r rhestr y mae'r hereditament wedi'i ddangos arni (neu y byddai'n cael ei ddangos arni, yn ôl yr hyn a fynnir gan y cyd-destun);

    • mae i “tribiwnlys prisio perthnasol” (“relevant valuation tribunal”) yr un ystyr ag sydd i “relevant valuation tribunal” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993;

2

O ran person dynodedig, mae cyfeiriadau at hereditament person dynodedig yn gyfeiriadau at unrhyw hereditament neu, fel y bo'r achos, yn gyfeiriadau at ddisgrifiad neu ddosbarth o hereditamentau, a ragnodir mewn perthynas â'r person dynodedig hwnnw.

Y cyfnod perthnasol a'r diwrnod perthnasol3

1

Y cyfnod sy'n cynnwys y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, 1 Ebrill 2001 ac 1 Ebrill 2002 yw'r cyfnod perthnasol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, yn unol ag adran 58 o'r Ddeddf.

2

Blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n dod o fewn y cyfnod perthnasol yw blwyddyn berthnasol.

3

Diwrnod y gellir codi swm ynglŷn ag ef ac sy'n dod o fewn y cyfnod perthnasol yw diwrnod perthnasol.

Hereditament diffiniedig4

1

O ran diwrnod perthnasol, mae hereditament yn hereditament diffiniedig os yw'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni.

2

Yr amod yn y paragraff hwn yw bod yr hereditament yn cael ei ddangos ar restr ar gyfer —

a

31 Mawrth 2000, a

b

y diwrnod perthnasol, ac

c

pob diwrnod (os oes un) sy'n dod ar ôl 31 Mawrth 2000 a chyn y diwrnod perthnasol.

3

At ddibenion y rheoliad hwn:

a

trinnir hereditament y Goron fel petai wedi'i ddangos ar restr ar gyfer 31 Mawrth 2000;

b

trinnir hereditament fel petai wedi'i ddangos ar restr ardrethu annomestig ar gyfer Mawrth 2000 os—

i

bydd yn syrthio o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen i Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog 1994 6 ar gyfer 31 Mawrth 2000; a

ii

os dangosir ef ar restr ardrethu annomestig leol ar gyfer 1 Ebrill 2000;

c

cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i'r swyddog prisio priodol ardystio'r gwerth ardrethol a fyddai wedi bod yn gymwysadwy i

i

hereditament y Goron ar 31 Mawrth 2000; a

ii

hereditament a drinnir fel petai wedi'i ddangos ar restr ardrethu annomestig leol ar q gyfer 31 Mawrth 2000 yn rhinwedd paragraff (b) uchod;

petai wedi cael ei ddangos ar y rhestr ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Atebolrwydd sylfaenol5

1

Ceir yr atebolrwydd sylfaenol (“BL”) ar gyfer hereditament diffiniedig:

a

yr ardystiwyd gwerth ardrethol ar ei gyfer gan y swyddog prisio priodol o dan reoliad 4 drwy luosogi â 0.443 y gwerth ardrethol a ardystiwyd felly; a

b

mewn unrhyw achos arall, drwy ddefnyddio'r fformwla CA × 366 lle CA yw'r swm y gellir ei godi ar gyfer 31 Mawrth 2000 ynglŷn â'r hereditament diffiniedig a gyfrifwyd yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf

Swm tybiannol y gellir ei godi6

— Ceir y swm tybiannol y gellir ei godi (“NCA”), ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio'r fformwla:

A×0.412math

Achos y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo7

— Mae Rheoliad 8 yn gymwys i hereditament diffiniedig —

a

os yw gwerth ardrethol yr hereditament ar 1 Ebrill 2000 wedi'i ddangos ar restr am £25,000 neu lai, a

b

os yw NCA yn fwy na BL × 1.1, ac

c

os yw meddiannydd yr hereditament yr un fath â'r meddiannydd ar 31 Mawrth 2000.

Y gostyngiadau sydd i'w gwneud o ran y swm y gellir ei godi8

1

Ar gyfer hereditament y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r swm y gellir ei godi ar gyfer diwrnod perthnasol, fel y'i cyfrifir yn unol ag adrannau 43, 45 neu 54 o'r Ddeddf fel y bo'n briodol, gael eu gostwng â swm a gyfrifir drwy gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn y rheoliad hwn ar yr amod y bydd y swm y gellir ei godi yn ddim os canlyniad gostwng y swm y gellir ei godi gan swm a gyfrifwyd felly yw cynhyrchu ffigur negyddol.

2

Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, rhaid gostwng y swm y gellir ei godi â swm (“TR”) a gyfrifir drwy ddefnyddio'r fformwla fel a ganlyn:

NCA-(BL×1.1)365math

3

Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 rhaid gostwng y swm taladwy â swm sy'n hafal i:

TR×2/3math

4

Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 rhaid gostwng y swm y gellir ei godi â swm sy'n hafal i:

TR×1/3math

Achos y mae rheoliad 10 yn gymwys iddo9

— Mae Rheoliad 10 yn gymwys i herediatement diffiniedig os yr un yw meddiannydd yr hereditament â'r meddiannydd ar 31 Mawrth 2000.

Rheolau ar gyfer penderfynu'r swm y gellir ei godi mewn achosion penodol10

1

Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, pan fydd yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig yn llai na BL × 0.85, ceir y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla:

(BL×CA×0.85)365math

2

Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001, pan fydd A × B yn llai na BL × 0.55 ar gyfer hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla:

(BL×CA×0.55)365math

3

Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002, pan fydd A × B yn llai na BL × 0.1 ar gyfer hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi ar gyfer yr hereditament hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla:

(BL×CA×0.1)365math

Ardystiad gan y swyddog prisio priodol11

1

Rhaid i'r swyddog prisio priodol ardystio gwerth at ddibenion A yn rheoliad 2(1) y dylid ei roi, ym marn y swyddog prisio, yn lle'r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ar 1 Ebrill 2000 cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau sy'n galw am yr ardystiad ddod i sylw'r swyddog prisio (p'un ai yn rhinwedd cais gan yr awdurdod bilio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r sawl dan sylw sy'n talu'r ardrethi , neu fel arall).

2

Pan fydd y swyddog prisio priodol, p'un ai oherwydd penderfyniad tribiwnlys prisio neu fel arall, yn dod i'r farn bod ardystiad o dan unrhyw un o ddarpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn (heblaw ardystiad o'r fath a gadarnhawyd yn dilyn apêl) yn anghywir, rhaid i'r swyddog prisio ardystio'r gwerth, ym marn y swyddog prisio, y dylid ei roi yn lle'r gwerth a ardystiwyd yn wreiddiol.

3

Bydd i ardystiad o dan baragraff (2) effaith at ddibenion darpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn yn lle'r ardystiad blaenorol, a bernir y bydd unrhyw apêl yn erbyn yr ardystiad blaenorol o dan reoliad 12 o'r Rheoliadau hyn wedi'i dynnu'n ôl.

4

Rhaid i'r swyddog prisio sy'n ardystio gwerth yn unol â'r Rheoliadau hyn anfon copi o'r ardystiad :

a

i'r awdurdod bilio dan sylw, neu, i'r graddau y mae'n ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 54 o'r Ddeddf, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a

b

ac eithrio yn achos ardystiad o dan reoliad 4(3)(c)(i) y sawl dan sylw sy'n talu'r ardrethi.

5

Rhaid anfon gyda'r copi o ardystiad a anfonwyd at y sawl sy'n talu'r ardrethi yn unol â pharagraff (4) uchod ddatganiad o effaith, mewn perthynas â'r ardystiad :

a

rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn; a

b

paragraff (3) uchod, pan fo'n ardystiad o dan baragraff (2) uchod, a gellir ei anfon i gyfeiriad hysbys diwethaf y sawl sy'n talu'r ardrethi neu i gyfeiriad yr hereditament dan sylw.

6

Rhaid i'r swyddog prisio sy'n ardystio gwerth yn unol â'r Rheoliadau hyn gadw'r ardystiad ac fe gaiff person ei archwilio ar unrhyw adeg resymol.

7

Pan fydd y swyddog prisio priodol yn ardystio gwerth ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod bilio gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 8 a 10 gan roi sylw i'r ardystiad.

Apelau yn erbyn ardystiad12

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fydd person sydd â buddiant mewn perthynas â hereditament y mae ei werth wedi'i ardystio gan swyddog prisio priodol (at ddiben A yn rheoliad 2(1)) yn anfodlon ar y gwerth a ardystiwyd felly, caiff apelio yn erbyn yr ardystiad yn unol â'r rheoliad hwn.

2

Rhaid cychwyn apêl o dan baragraff (1) drwy gyflwyno, cyn 1 Ebrill 2001, hysbysiad i'r swyddog prisio yn datgan rhesymau'r apelydd dros fod yn anfodlon.

3

Oni fydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd o fewn pedair wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad o resymau'r apelydd o dan baragraff (2), sef

a

bod yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl, neu

b

body swyddog prisio priodol a'r apelydd yn cytuno'n ysgrifenedig ynglŷn â'r gwerth y dylid ei ardystio, rhaid cyfeirio'r anghytundeb ar ddiwedd y cyfnod hwnnw gan y swyddog hwnnw i'r tribiwnlys prisio perthnasol fel apêl yn erbyn yr ardystiad hwnnw.

4

Mae rhan VI o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993) yn gymwys i apêl o dan y rheoliad hwn.

5

Ni chaniateir i unrhyw apêl gael ei wneud yn erbyn ardystiad a roddwyd gan swyddog prisio priodol yn unol â rheoliad 4.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987

D.Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y cyfnod o dair blynedd yn dechrau ar 1af Ebrill 2000, y swm y gellir ei godi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w dalu o dan amgylchiadau penodol mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”). Maent yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r swm y gellir ei godi yn lle adrannau 43,45 neu 54 o Ddeddf 1988. Maent yn darparu hefyd ynghylch ardystio gwerthoedd ardrethol gan swyddogion prisio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostwng y swm y gellir ei godi neu ar gyfer cyfrifo'r swm y gellir ei godi pan fydd yr hereditament dan sylw yn cael ei ddangos ar restr leol neu ganolog (gweler adrannau 42 a 53 o Ddeddf 1988) a bod amodau penodol yn cael eu bodloni.

Mae rheoliad 4 yn diffinio'r hereditamentau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt ac mae Rheoliadau 5 a 6 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y fformwlâu yn Rheoliadau 8 a 9.

Mae Rheoliad 7 yn pennu'r amodau pan fydd Rheoliad 8 yn gymwys. Mae Rheoliad 8 yn pennu'r gostyngiadau a wneir yn y swm y gellir ei godi o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rheoliad 9 yn pennu'r amgylchiadau pan fydd Rheoliad 10 yn gymwys.Mae rheoliad 10 yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu'r swm y gellir ei godi mewn achosion penodol sydd wedi'u diffinio. Mae'n cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd ariannol 2000, 2001 a 2002 o'i gymharu â'r swm y gellir ei godi ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill 2000.

Mae rheoliad 11 yn darparu ynglŷn ag ardystio gwerthoedd penodol y mae angen eu hardystio o dan y Rheoliadau gan y swyddog prisio priodol (a ddiffinnir yn rheoliad 2). Mae rheoliad 12 yn darparu ynglŷn ag apelau yn erbyn ardystiadau.