Search Legislation

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3454 (Cy.51)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

23 Rhagfyr 1999

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58 a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau y Gellir eu Codi) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 1999.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

  • Ystyr “A” (“A”) yw'r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer hereditament ar restr ar 1 Ebrill 2000 neu'r gwerth a ardystir gan y swyddog prisio priodol fel y gwerth ardrethol a fyddai wedi bod yn gymwys i'r hereditament ar 1 Ebrill 2000;

  • mae i “atebolrwydd sylfaenol” (“BL”) >(“base liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5;

  • ystyr “B” (“B”) yw'r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn berthnasol;

  • mae i “flwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2);

  • ystyr “C” (“C”) yw'r gwerth ardrethol ar gyfer yr hereditament a ddangosir ar restr ardrethu ar gyfer y diwrnod perthnasol;

  • mae i “gyfnod perthnasol” (“relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(1);

  • ystyr “y Ddeddf(“the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

  • mae i “ddiwrnod perthnasol” (“relevant day”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(3);

  • mae i “hereditament diffiniedig” (“defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • mae i “hereditatment y Goron” (“Crown hereditament”) yr un ystyr ag sydd i “Crown hereditament” yn adran 65A (4) o'r Ddeddf (3);

  • mae i “person â buddiant” (“interested person”) yr un ystyr ag sydd i “interested person” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993 (4)

  • mae i “person dynodedig” (“designated person”) yr un ystyr ac sydd iddo yn Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 (5);

  • ystyr “rhestr” (“list”) yw'r rhestr ardrethu annomestig leol berthnasol neu restr sy'n cael ei llunio a'i chadw'n unol ag adran 53 o'r Ddeddf;

  • mae i “swm tybiannol y gellir ei godi”(“NCA”) >(“notional chargeable amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6;

  • ystyr “swyddog prisio priodol” (“appropriate valuation officer”)

    (a)

    mewn perthynas â hereditament y mae rheoliadau o dan adran 53(1) o'r Ddeddf (cynnwys y rhestri canolog) mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio canolog;

    (b)

    mewn perthynas â hereditament nad oes unrhyw reoliadau o'r fath mewn grym ynglŷn ag ef, yw'r swyddog prisio sy'n cadw'r rhestr y mae'r hereditament wedi'i ddangos arni (neu y byddai'n cael ei ddangos arni, yn ôl yr hyn a fynnir gan y cyd-destun);

    • mae i “tribiwnlys prisio perthnasol” (“relevant valuation tribunal”) yr un ystyr ag sydd i “relevant valuation tribunal” yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) 1993;

(2O ran person dynodedig, mae cyfeiriadau at hereditament person dynodedig yn gyfeiriadau at unrhyw hereditament neu, fel y bo'r achos, yn gyfeiriadau at ddisgrifiad neu ddosbarth o hereditamentau, a ragnodir mewn perthynas â'r person dynodedig hwnnw.

Y cyfnod perthnasol a'r diwrnod perthnasol

3.—(1Y cyfnod sy'n cynnwys y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, 1 Ebrill 2001 ac 1 Ebrill 2002 yw'r cyfnod perthnasol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, yn unol ag adran 58 o'r Ddeddf.

(2Blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n dod o fewn y cyfnod perthnasol yw blwyddyn berthnasol.

(3Diwrnod y gellir codi swm ynglŷn ag ef ac sy'n dod o fewn y cyfnod perthnasol yw diwrnod perthnasol.

Hereditament diffiniedig

4.—(1O ran diwrnod perthnasol, mae hereditament yn hereditament diffiniedig os yw'r amod ym mharagraff (2) wedi'i fodloni.

(2Yr amod yn y paragraff hwn yw bod yr hereditament yn cael ei ddangos ar restr ar gyfer —

(a)31 Mawrth 2000, a

(b)y diwrnod perthnasol, ac

(c)pob diwrnod (os oes un) sy'n dod ar ôl 31 Mawrth 2000 a chyn y diwrnod perthnasol.

(3At ddibenion y rheoliad hwn:

(a)trinnir hereditament y Goron fel petai wedi'i ddangos ar restr ar gyfer 31 Mawrth 2000;

(b)trinnir hereditament fel petai wedi'i ddangos ar restr ardrethu annomestig ar gyfer Mawrth 2000 os—

i)bydd yn syrthio o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen i Reoliadau Rhestr Ardrethu Canolog 1994 (6) ar gyfer 31 Mawrth 2000; a

ii)os dangosir ef ar restr ardrethu annomestig leol ar gyfer 1 Ebrill 2000;

(c)cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i'r swyddog prisio priodol ardystio'r gwerth ardrethol a fyddai wedi bod yn gymwysadwy i

i)hereditament y Goron ar 31 Mawrth 2000; a

ii)hereditament a drinnir fel petai wedi'i ddangos ar restr ardrethu annomestig leol ar q gyfer 31 Mawrth 2000 yn rhinwedd paragraff (b) uchod;

petai wedi cael ei ddangos ar y rhestr ar gyfer y diwrnod hwnnw.

Atebolrwydd sylfaenol

5.—(1Ceir yr atebolrwydd sylfaenol (“BL”) ar gyfer hereditament diffiniedig:

(a)yr ardystiwyd gwerth ardrethol ar ei gyfer gan y swyddog prisio priodol o dan reoliad 4 drwy luosogi â 0.443 y gwerth ardrethol a ardystiwyd felly; a

(b)mewn unrhyw achos arall, drwy ddefnyddio'r fformwla CA × 366 lle CA yw'r swm y gellir ei godi ar gyfer 31 Mawrth 2000 ynglŷn â'r hereditament diffiniedig a gyfrifwyd yn unol â darpariaethau Rhan III o'r Ddeddf

Swm tybiannol y gellir ei godi

6.  — Ceir y swm tybiannol y gellir ei godi (“NCA”), ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio'r fformwla:

A × 0.412

Achos y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo

7.  — Mae Rheoliad 8 yn gymwys i hereditament diffiniedig —

(a)os yw gwerth ardrethol yr hereditament ar 1 Ebrill 2000 wedi'i ddangos ar restr am £25,000 neu lai, a

(b)os yw NCA yn fwy na BL × 1.1, ac

(c)os yw meddiannydd yr hereditament yr un fath â'r meddiannydd ar 31 Mawrth 2000.

Y gostyngiadau sydd i'w gwneud o ran y swm y gellir ei godi

8.—(1Ar gyfer hereditament y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo, rhaid i'r swm y gellir ei godi ar gyfer diwrnod perthnasol, fel y'i cyfrifir yn unol ag adrannau 43, 45 neu 54 o'r Ddeddf fel y bo'n briodol, gael eu gostwng â swm a gyfrifir drwy gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn y rheoliad hwn ar yr amod y bydd y swm y gellir ei godi yn ddim os canlyniad gostwng y swm y gellir ei godi gan swm a gyfrifwyd felly yw cynhyrchu ffigur negyddol.

(2Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, rhaid gostwng y swm y gellir ei godi â swm (“TR”) a gyfrifir drwy ddefnyddio'r fformwla fel a ganlyn:

(3Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001 rhaid gostwng y swm taladwy â swm sy'n hafal i:

TR × 2 / 3

(4Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002 rhaid gostwng y swm y gellir ei godi â swm sy'n hafal i:

TR × 1 / 3

Achos y mae rheoliad 10 yn gymwys iddo

9.  — Mae Rheoliad 10 yn gymwys i herediatement diffiniedig os yr un yw meddiannydd yr hereditament â'r meddiannydd ar 31 Mawrth 2000.

Rheolau ar gyfer penderfynu'r swm y gellir ei godi mewn achosion penodol

10.—(1Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2000, pan fydd yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig yn llai na BL × 0.85, ceir y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla:

(2Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2001, pan fydd A × B yn llai na BL × 0.55 ar gyfer hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi am ddiwrnod perthnasol ar gyfer yr hereditament hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla:

(3Yn y flwyddyn berthnasol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002, pan fydd A × B yn llai na BL × 0.1 ar gyfer hereditament diffiniedig, ceir y swm y gellir ei godi ar gyfer yr hereditament hwnnw drwy ddefnyddio'r fformwla:

Ardystiad gan y swyddog prisio priodol

11.—(1Rhaid i'r swyddog prisio priodol ardystio gwerth at ddibenion A yn rheoliad 2(1) y dylid ei roi, ym marn y swyddog prisio, yn lle'r gwerth ardrethol a ddangosir ar restr ar 1 Ebrill 2000 cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r amgylchiadau sy'n galw am yr ardystiad ddod i sylw'r swyddog prisio (p'un ai yn rhinwedd cais gan yr awdurdod bilio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu'r sawl dan sylw sy'n talu'r ardrethi , neu fel arall).

(2Pan fydd y swyddog prisio priodol, p'un ai oherwydd penderfyniad tribiwnlys prisio neu fel arall, yn dod i'r farn bod ardystiad o dan unrhyw un o ddarpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn (heblaw ardystiad o'r fath a gadarnhawyd yn dilyn apêl) yn anghywir, rhaid i'r swyddog prisio ardystio'r gwerth, ym marn y swyddog prisio, y dylid ei roi yn lle'r gwerth a ardystiwyd yn wreiddiol.

(3Bydd i ardystiad o dan baragraff (2) effaith at ddibenion darpariaethau blaenorol y Rheoliadau hyn yn lle'r ardystiad blaenorol, a bernir y bydd unrhyw apêl yn erbyn yr ardystiad blaenorol o dan reoliad 12 o'r Rheoliadau hyn wedi'i dynnu'n ôl.

(4Rhaid i'r swyddog prisio sy'n ardystio gwerth yn unol â'r Rheoliadau hyn anfon copi o'r ardystiad :

(a)i'r awdurdod bilio dan sylw, neu, i'r graddau y mae'n ymwneud ag atebolrwydd o dan adran 54 o'r Ddeddf, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; a

(b)ac eithrio yn achos ardystiad o dan reoliad 4(3)(c)(i) y sawl dan sylw sy'n talu'r ardrethi.

(5Rhaid anfon gyda'r copi o ardystiad a anfonwyd at y sawl sy'n talu'r ardrethi yn unol â pharagraff (4) uchod ddatganiad o effaith, mewn perthynas â'r ardystiad :

(a)rheoliad 12 o'r Rheoliadau hyn; a

(b)paragraff (3) uchod, pan fo'n ardystiad o dan baragraff (2) uchod, a gellir ei anfon i gyfeiriad hysbys diwethaf y sawl sy'n talu'r ardrethi neu i gyfeiriad yr hereditament dan sylw.

(6Rhaid i'r swyddog prisio sy'n ardystio gwerth yn unol â'r Rheoliadau hyn gadw'r ardystiad ac fe gaiff person ei archwilio ar unrhyw adeg resymol.

(7Pan fydd y swyddog prisio priodol yn ardystio gwerth ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod bilio gymhwyso'r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 8 a 10 gan roi sylw i'r ardystiad.

Apelau yn erbyn ardystiad

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fydd person sydd â buddiant mewn perthynas â hereditament y mae ei werth wedi'i ardystio gan swyddog prisio priodol (at ddiben A yn rheoliad 2(1)) yn anfodlon ar y gwerth a ardystiwyd felly, caiff apelio yn erbyn yr ardystiad yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid cychwyn apêl o dan baragraff (1) drwy gyflwyno, cyn 1 Ebrill 2001, hysbysiad i'r swyddog prisio yn datgan rhesymau'r apelydd dros fod yn anfodlon.

(3Oni fydd y naill neu'r llall o'r canlynol yn digwydd o fewn pedair wythnos o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad o resymau'r apelydd o dan baragraff (2), sef

(a)bod yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl, neu

(b)body swyddog prisio priodol a'r apelydd yn cytuno'n ysgrifenedig ynglŷn â'r gwerth y dylid ei ardystio, rhaid cyfeirio'r anghytundeb ar ddiwedd y cyfnod hwnnw gan y swyddog hwnnw i'r tribiwnlys prisio perthnasol fel apêl yn erbyn yr ardystiad hwnnw.

(4Mae rhan VI o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) 1993) yn gymwys i apêl o dan y rheoliad hwn.

(5Ni chaniateir i unrhyw apêl gael ei wneud yn erbyn ardystiad a roddwyd gan swyddog prisio priodol yn unol â rheoliad 4.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Rhagfyr 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y cyfnod o dair blynedd yn dechrau ar 1af Ebrill 2000, y swm y gellir ei godi ac y mae'r sawl sy'n talu'r ardrethi yn atebol i'w dalu o dan amgylchiadau penodol mewn perthynas ag ardrethi annomestig o dan Ran III o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”). Maent yn gymwys at ddibenion cyfrifo'r swm y gellir ei godi yn lle adrannau 43,45 neu 54 o Ddeddf 1988. Maent yn darparu hefyd ynghylch ardystio gwerthoedd ardrethol gan swyddogion prisio.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gostwng y swm y gellir ei godi neu ar gyfer cyfrifo'r swm y gellir ei godi pan fydd yr hereditament dan sylw yn cael ei ddangos ar restr leol neu ganolog (gweler adrannau 42 a 53 o Ddeddf 1988) a bod amodau penodol yn cael eu bodloni.

Mae rheoliad 4 yn diffinio'r hereditamentau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt ac mae Rheoliadau 5 a 6 yn diffinio termau penodol a ddefnyddir yn y fformwlâu yn Rheoliadau 8 a 9.

Mae Rheoliad 7 yn pennu'r amodau pan fydd Rheoliad 8 yn gymwys. Mae Rheoliad 8 yn pennu'r gostyngiadau a wneir yn y swm y gellir ei godi o dan amgylchiadau penodol.

Mae Rheoliad 9 yn pennu'r amgylchiadau pan fydd Rheoliad 10 yn gymwys.Mae rheoliad 10 yn pennu'r rheolau ar gyfer penderfynu'r swm y gellir ei godi mewn achosion penodol sydd wedi'u diffinio. Mae'n cyfyngu ar y gostyngiad yn y swm y gellir ei godi yn y blynyddoedd ariannol 2000, 2001 a 2002 o'i gymharu â'r swm y gellir ei godi ar gyfer y cyfnod cyn 1 Ebrill 2000.

Mae rheoliad 11 yn darparu ynglŷn ag ardystio gwerthoedd penodol y mae angen eu hardystio o dan y Rheoliadau gan y swyddog prisio priodol (a ddiffinnir yn rheoliad 2). Mae rheoliad 12 yn darparu ynglŷn ag apelau yn erbyn ardystiadau.

(1)

1988 p.41. Diwygir adran 143(2) gan baragraff 72(2) o Atodlen 5 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42.) Diwygir paragraff 3(2) o Atodlen 6 gan baragraff 38(13) o Atodlen 5 i Ddeddf 1989.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

(3)

Mewnosodwyd adran 65A gan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth ac Ardrethu 1997 (c. 29)

(5)

O.S. 1999/

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources