ATODLEN

RHAN 2HEREDITAMENTAU CYFLENWI TRYDAN

  • Person dynodedig

    The National Grid Company plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at drawsffurfio neu drawsyrru pŵer trydanol, neu at ddibenion ategol

  • Person dynodedig

    Manweb plc

    Midlands Electricity plc

    South Wales Electricity plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau cyflenwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion ategol

    Yn y Rhan hon—

    • ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf—

      1. a

        fel siop neu le arall ar gyfer gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr trydan (gan anwybyddu unrhyw ddefnydd ar gyfer derbyn taliadau am ddefnyddio trydan);

      2. b

        fel adeiladau swyddfa person dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu

      3. c

        at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol; ac

      mae i “cyflenwr trydan cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public electricity supplier” yn adran 6(9) o Ddeddf Trydan 19899.