Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 1999.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “person dynodedig” mewn perthynas â rhestr ardrethu canolog i Gymru, a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, yw person a ddynodwyd gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn(“designated person”);

  • ystyr “rhestr ardrethu canolog” yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog i Gymru (“central rating list”).

3

Cyfeiriad at hereditament annomestig perthnasol yw pob cyfeiriad at hereditament yn y Rheoliadau hyn.

4

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni neu'r corff a gofrestrwyd gan yr enw hwnnw, neu sy'n dwyn yr enw hwnnw, ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog.

5

Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu unrhyw Ran o'r Atodlen yr ystyr a briodolir iddo yn yr Atodlen honno neu'r Rhan honno.