Search Legislation

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 3453 (Cy.50)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999

Wedi'u gwneud

22 Rhagfyr 1999

Yn dod i rym

30 Rhagfyr 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 53(1) a (2), 140(4) a 143(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau eu bod yn arferadwy yng Nghymru(2);

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 1999.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “person dynodedig” mewn perthynas â rhestr ardrethu canolog i Gymru, a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, yw person a ddynodwyd gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn(“designated person”);

ystyr “rhestr ardrethu canolog” yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog i Gymru (“central rating list”).

(3Cyfeiriad at hereditament annomestig perthnasol yw pob cyfeiriad at hereditament yn y Rheoliadau hyn.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni neu'r corff a gofrestrwyd gan yr enw hwnnw, neu sy'n dwyn yr enw hwnnw, ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog.

(5Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu unrhyw Ran o'r Atodlen yr ystyr a briodolir iddo yn yr Atodlen honno neu'r Rhan honno.

Cymhwyso'r Rheoliadau

2.  Bydd effaith i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Dynodi personau a disgrifio hereditamentau

3.—(1At ddibenion adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988—

(a)Dynoder yma drwy hyn y personau a enwir yn yr Atodlen; a

(b)Rhagnoder yma drwy hyn, mewn perthynas â phob un o'r personau hynny, ddisgrifiad o'r hereditament a roddir islaw enw'r person hwnnw yn yr Atodlen.

(2Ni fydd Rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989(3)(hereditamentau croesffiniol) yn gymwys i unrhyw hereditament sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen.

Cynnwys y rhestr ardrethu canolog

4.  Rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, am bob dydd ym mhob blwyddyn y bydd y rhestr honno mewn grym—

(a)enw pob person a ddynodir gan reoliad 3; a

(b)gyferbyn â phob enw, bob hereditament a leolir yng Nghymru a feddiennir ar y diwrnod dan sylw (neu, os nas meddiennir ef, a berchnogir) gan y person hwnnw, ac sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir mewn perthynas â'r person hwnnw gan y rheoliad hwnnw.

5.—(1Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, gyferbyn ag enw pob person dynodedig—

(a)os cwmni cofrestredig yw'r person, ei swyddfa gofrestredig, ac ym mhob achos arall ei brif le busnes o fewn y Deyrnas Unedig;

(b)os cwmni cofrestredig yw'r person, ei rif cofrestredig; ac

(c)y diwrnod cyntaf, os yw'n ddiweddarach na 1 Ebrill 2000, pan fydd effaith i'r gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr wrth enw'r person dynodedig

(2Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, os bydd y rhestr wedi'i newid yn unol â chyfarwyddyd gan dribiwnlys, enw'r tribiwnlys a roddodd y cyfarwyddyd.

Hereditamentau Rheilffyrdd

6.—(1Diwygier Rheoliad 3 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994(4) ynglŷn â Chymru fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “the British Railways Board” ym mharagraff (1).

(3Yn lle paragraff (1)(b)(i) mewnosoder —

(i)(a)where paragraph (3) applies, which are occupied by Railtrack plc, or by a licence exempt operator or a licence holder other than Railtrack plc, or

(b)where paragraph (5) or (6) applies, which are occupied by any person designated by regulation 5(1) of, and named in Part 4 of the Schedule to, the Central Rating Lists Regulations 1994,

and which are not situated on operational land of that occupier, or of another relevant person;.

(4Ychwaneger ar ddiwedd paragraff (1) —

and ‘relevant person’ means—

(i)any person designated and named as mentioned in sub-paragraph (b)(i) above, or

(ii)any licence exempt operator or licence holder which is not so designated.

(5Hepgorer —

(a)paragraff (2),

(b)y geiriau '(other than the Board') ym mharagraff (3)(a)(ii), ac

(c)y geiriau o'r dechrau hyd at 'the Board and' ym mharagraff (4).

Diddymiadau ac eithriadau

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymer drwy hyn ynglŷn â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen, y canlynol—

(a)Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 1994(5);

(b)Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog (Diwygio) 1996(6).

(2Bydd y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i fod ag effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol—

(a)unrhyw newid i'r rhestr sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58((7) o Ddeddf 1988 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) sy'n ymwneud â'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol fel a ddiffinnir yn yr adran honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.(8)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999

Rheoliad 3

ATODLEN

RHAN 1HEREDITAMENTAU CAMLESI

  • Person dynodedig

    Bwrdd Ffyrdd Dŵr Prydain

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

RHAN 2HEREDITAMENTAU CYFLENWI TRYDAN

  • Person dynodedig

    The National Grid Company plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at drawsffurfio neu drawsyrru pŵer trydanol, neu at ddibenion ategol

  • Person dynodedig

    Manweb plc

    Midlands Electricity plc

    South Wales Electricity plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at swyddogaethau cyflenwr trydan cyhoeddus, neu at ddibenion ategol

    Yn y Rhan hon—

    ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf—

    (a)

    fel siop neu le arall ar gyfer gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr trydan (gan anwybyddu unrhyw ddefnydd ar gyfer derbyn taliadau am ddefnyddio trydan);

    (b)

    fel adeiladau swyddfa person dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu

    (c)

    at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol; ac

    mae i “cyflenwr trydan cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public electricity supplier” yn adran 6(9) o Ddeddf Trydan 1989(9).

RHAN 3HEREDITAMENTAU NWY

  • Person dynodedig

    BG plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion BG plc yn gweithredol fel cludwr nwy cyhoeddus

    Yn y Rhan hon—

    ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir neu, os nad feddiennnir hwy, y bwriedir eu defnyddio yn gyfan gwbl neu'n bennaf

    (a)

    er mwyn gwneuthur peiriannau a ffitiadau nwy;

    (b)

    fel cyfleusterau storio pwysedd uchel neu gyfleusterau storio nwy naturiol hylifedig neu gyfleusterau a ddefnyddir neu sydd ar gael i'w defnyddio mewn cysylltiad â storio alltraeth;

    (c)

    fel adeiladau swyddfa, pan nad yw'r adeiladau ar dir gweithredol BG plc; neu

    (ch)

    at fwy nag un o'r dibenion blaenorol, ac

    mae i “cludwr nwy cyhoeddus” yr un ystyr ag sydd i “public gas transporter” yn Rhan 1 o Ddeddf Nwy 1986(10); acmae cyfeiriadau i BG plc yn gyfeiriadau at y cwmni sy'n dwyn yr enw hwnnw ar 9 Tachwedd 1999.

RHAN 4HEREDITAMENTAU RHEILFFYRDD

  • Person dynodedig

    Railtrack plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditamentau a leolir yng Nghymru ac a ddisgrifir yn rheoliad 3(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

RHAN 5HEREDITAMENTAU TELATHREBU

  • Person dynodedig

    British Telecommunications plc

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

  • Person dynodedig

    Mercury Communications Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

  • Person dynodedig

    Racal Telecommunications Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

  • Person dynodedig

    Energis Communications Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(4) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

  • Person dynodedig

    AT&T(UK) Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Yr hereditament a ddisgrifir yn rheoliad 4(5) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994

RHAN 6HEREDITAMENTAU CYFLENWI DŴR

  • Person Dynodedig

    Dee Valley Water plc

    Dŵr Cymru Cyfyngedig

    North West Water Limited

    Severn Trent Water Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Hereditamentau (ar wahân i hereditamentau a eithrir) a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion ymgymerwr dŵr o dan Ran III o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991(11), neu at ddibenion ategol

    Yn y rhan hon ystyr “hereditament a eithrir” yw hereditament sy'n cynnwys tir ac adeiladau a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf—

    (a)

    at wneud, storio, gwerthu, arddangos neu ddangos cyfarpar neu atodion at ddefnydd defnyddwyr dŵr (gan anwybyddu unrhyw ddefnydd ar gyfer derbyn taliadau am ddefnyddio dŵr neu wasanaethau carthffosiaeth); neu

    (b)

    fel adeiladau swyddfa a feddiennir gan berson dynodedig, os na fydd yr adeiladau hynny ar dir gweithredol y person hwnnw; neu

    (c)

    at y naill a'r llall o'r dibenion blaenorol.

RHAN 7PIBLINELLAU HIRBELL

  • Person dynodedig

    Mainline Pipelines Limited

  • Hereditamentau perthnasol

    Piblinellau traws-gwlad (o fewn ystyr Deddf Piblinellau 1962(12)) a leolir o fewn ardal mwy nag un awdurdod bilio.

RHAN 8DEHONGLI

Yn yr Atodlen hon—

ystyr “adeiladau swyddfa” yw unrhyw hereditament a adeiladwyd neu a addaswyd yn swyddfeydd neu at ddibenion swyddfa, neu a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu'n bennaf at y dibenion hynny;mae “dibenion swyddfa” yn cynnwys dibenion gweinyddu a gwaith clerigol a thrin arian; ac mae “gwaith clerigol” yn cynnwys ysgrifennu, cadw cyfrifon, teipio, ffeilio, dyblygu, trefnu papurau neu wybodaeth neu gyfrif (boed â llaw, â pheiriant neu â chyfrwng electronig), tynnu lluniau a golygu deunydd ar gyfer ei gyhoeddi;

ystyr “tir gweithredol”, mewn perthynas â pherson dynodedig yw'r tir a ddefnyddir at ddibenion cynnal ymgymeriad y person hwnnw, sef tir, o ran ei natur a'i leoliad, sydd yn fwy cymaradwy â thir a ddefnyddir at ddibenion ymgymeriadau statudol (o fewn ystyr Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(13)) nag â thir yn gyffredinol;Ac mae unrhyw gyfeiriad at hereditamentau a ddefnyddir at unrhyw bwrpas yn cynnwys cyfeiriad at hereditamentau nas defnyddir ond, mewn perthynas â hwy, ymddengys y cânt eu defnyddio at ddiben o'r fath pan ddefnyddir hwy nesaf.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Gyda golwg ar sicrhau ardrethu canolog yn ei grynswth ar hereditamentau penodol, ceir gwneud rheoliadau o dan adran 53(1)o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 sy'n dynodi person a rhagnodi, mewn perthynas â'r person hwnnw, un neu ragor o ddisgrifiadau o hereditamentau annomestig.

Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn dynodi'r personau a enwir yn yr Atodlen ac mae'n rhagnodi'r disgrifiadau o'r hereditamentau a ddangosir yn yr Atodlen gyferbyn ag enwau'r personau hynny.

Mae Rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol dangos enwau'r personau dynodedig a'r hereditamentau a leolir yng Nghymru, sydd o fewn y disgrifiadau rhagnodedig ac a feddiennir (neu, os nas meddiennir, a berchnogir) gan y personau hynny, ar unrhyw restr ardrethu annomestig canolog i Gymru a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol fod y rhestr yn dangos gwybodaeth benodol am y personau dynodedig a'r dyddiad pan fydd y gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr yn dechrau bod yn weithredol.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994 er mwyn eithrio Bwrdd Rheilffyrdd Prydeinig o ardrethu canolog.

Mae Rheoliad 7 yn diddymu Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 1994 mewn perthynas â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen gyda rhai eithriadau.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(7)

Diwygiwyd adran 58 gan baragraff 68 o Atodlen 13 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a chan adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p.3).

(10)

1986 p.44.

(11)

1991 p.56.

(12)

1962 p.58.

(13)

1990 p.8.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources