Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 1999.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “person dynodedig” mewn perthynas â rhestr ardrethu canolog i Gymru, a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, yw person a ddynodwyd gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn(“designated person”);

  • ystyr “rhestr ardrethu canolog” yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog i Gymru (“central rating list”).

3

Cyfeiriad at hereditament annomestig perthnasol yw pob cyfeiriad at hereditament yn y Rheoliadau hyn.

4

Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni neu'r corff a gofrestrwyd gan yr enw hwnnw, neu sy'n dwyn yr enw hwnnw, ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog.

5

Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu unrhyw Ran o'r Atodlen yr ystyr a briodolir iddo yn yr Atodlen honno neu'r Rhan honno.

Cymhwyso'r Rheoliadau2

Bydd effaith i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Dynodi personau a disgrifio hereditamentau3

1

At ddibenion adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988—

a

Dynoder yma drwy hyn y personau a enwir yn yr Atodlen; a

b

Rhagnoder yma drwy hyn, mewn perthynas â phob un o'r personau hynny, ddisgrifiad o'r hereditament a roddir islaw enw'r person hwnnw yn yr Atodlen.

2

Ni fydd Rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 19893(hereditamentau croesffiniol) yn gymwys i unrhyw hereditament sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen.

Cynnwys y rhestr ardrethu canolog

4

Rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, am bob dydd ym mhob blwyddyn y bydd y rhestr honno mewn grym—

a

enw pob person a ddynodir gan reoliad 3; a

b

gyferbyn â phob enw, bob hereditament a leolir yng Nghymru a feddiennir ar y diwrnod dan sylw (neu, os nas meddiennir ef, a berchnogir) gan y person hwnnw, ac sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir mewn perthynas â'r person hwnnw gan y rheoliad hwnnw.

5

1

Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, gyferbyn ag enw pob person dynodedig—

a

os cwmni cofrestredig yw'r person, ei swyddfa gofrestredig, ac ym mhob achos arall ei brif le busnes o fewn y Deyrnas Unedig;

b

os cwmni cofrestredig yw'r person, ei rif cofrestredig; ac

c

y diwrnod cyntaf, os yw'n ddiweddarach na 1 Ebrill 2000, pan fydd effaith i'r gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr wrth enw'r person dynodedig

2

Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, os bydd y rhestr wedi'i newid yn unol â chyfarwyddyd gan dribiwnlys, enw'r tribiwnlys a roddodd y cyfarwyddyd.

Hereditamentau Rheilffyrdd6

1

Diwygier Rheoliad 3 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 19944 ynglŷn â Chymru fel a ganlyn.

2

Hepgorer y diffiniad o “the British Railways Board” ym mharagraff (1).

3

Yn lle paragraff (1)(b)(i) mewnosoder —

i
a

where paragraph (3) applies, which are occupied by Railtrack plc, or by a licence exempt operator or a licence holder other than Railtrack plc, or

b

where paragraph (5) or (6) applies, which are occupied by any person designated by regulation 5(1) of, and named in Part 4 of the Schedule to, the Central Rating Lists Regulations 1994,

and which are not situated on operational land of that occupier, or of another relevant person;

4

Ychwaneger ar ddiwedd paragraff (1) —

and ‘relevant person’ means—

i

any person designated and named as mentioned in sub-paragraph (b)(i) above, or

ii

any licence exempt operator or licence holder which is not so designated

5

Hepgorer —

a

paragraff (2),

b

y geiriau '(other than the Board') ym mharagraff (3)(a)(ii), ac

c

y geiriau o'r dechrau hyd at 'the Board and' ym mharagraff (4).

Diddymiadau ac eithriadau7

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymer drwy hyn ynglŷn â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen, y canlynol—

a

Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 19945;

b

Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog (Diwygio) 19966.

2

Bydd y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i fod ag effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol—

a

unrhyw newid i'r rhestr sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

b

unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58(7 o Ddeddf 1988 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) sy'n ymwneud â'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol fel a ddiffinnir yn yr adran honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.8

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol