Search Legislation

Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 1999.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “person dynodedig” mewn perthynas â rhestr ardrethu canolog i Gymru, a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny, yw person a ddynodwyd gan reoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn(“designated person”);

ystyr “rhestr ardrethu canolog” yw'r rhestr ardrethu annomestig canolog i Gymru (“central rating list”).

(3Cyfeiriad at hereditament annomestig perthnasol yw pob cyfeiriad at hereditament yn y Rheoliadau hyn.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson dynodedig wrth ei enw yn gyfeiriad at y cwmni neu'r corff a gofrestrwyd gan yr enw hwnnw, neu sy'n dwyn yr enw hwnnw, ar y dyddiad y cofnodwyd yr enw hwnnw ar y rhestr ardrethu canolog.

(5Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn neu unrhyw Ran o'r Atodlen yr ystyr a briodolir iddo yn yr Atodlen honno neu'r Rhan honno.

Cymhwyso'r Rheoliadau

2.  Bydd effaith i'r Rheoliadau hyn mewn perthynas ag unrhyw restr ardrethu canolog a luniwyd ar 1 Ebrill 2000 neu ar ôl hynny.

Dynodi personau a disgrifio hereditamentau

3.—(1At ddibenion adran 53(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988—

(a)Dynoder yma drwy hyn y personau a enwir yn yr Atodlen; a

(b)Rhagnoder yma drwy hyn, mewn perthynas â phob un o'r personau hynny, ddisgrifiad o'r hereditament a roddir islaw enw'r person hwnnw yn yr Atodlen.

(2Ni fydd Rheoliad 6 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) 1989(1)(hereditamentau croesffiniol) yn gymwys i unrhyw hereditament sy'n dod o fewn unrhyw ddisgrifiad yn yr Atodlen.

Cynnwys y rhestr ardrethu canolog

4.  Rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, am bob dydd ym mhob blwyddyn y bydd y rhestr honno mewn grym—

(a)enw pob person a ddynodir gan reoliad 3; a

(b)gyferbyn â phob enw, bob hereditament a leolir yng Nghymru a feddiennir ar y diwrnod dan sylw (neu, os nas meddiennir ef, a berchnogir) gan y person hwnnw, ac sy'n dod o fewn y disgrifiad a ragnodir mewn perthynas â'r person hwnnw gan y rheoliad hwnnw.

5.—(1Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, gyferbyn ag enw pob person dynodedig—

(a)os cwmni cofrestredig yw'r person, ei swyddfa gofrestredig, ac ym mhob achos arall ei brif le busnes o fewn y Deyrnas Unedig;

(b)os cwmni cofrestredig yw'r person, ei rif cofrestredig; ac

(c)y diwrnod cyntaf, os yw'n ddiweddarach na 1 Ebrill 2000, pan fydd effaith i'r gwerth ardrethol a ddangosir ar y rhestr wrth enw'r person dynodedig

(2Yn ogystal, rhaid i'r rhestr ardrethu canolog ddangos, os bydd y rhestr wedi'i newid yn unol â chyfarwyddyd gan dribiwnlys, enw'r tribiwnlys a roddodd y cyfarwyddyd.

Hereditamentau Rheilffyrdd

6.—(1Diwygier Rheoliad 3 o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rheilffyrdd, Telathrebu a Chamlesi) 1994(2) ynglŷn â Chymru fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “the British Railways Board” ym mharagraff (1).

(3Yn lle paragraff (1)(b)(i) mewnosoder —

(i)(a)where paragraph (3) applies, which are occupied by Railtrack plc, or by a licence exempt operator or a licence holder other than Railtrack plc, or

(b)where paragraph (5) or (6) applies, which are occupied by any person designated by regulation 5(1) of, and named in Part 4 of the Schedule to, the Central Rating Lists Regulations 1994,

and which are not situated on operational land of that occupier, or of another relevant person;.

(4Ychwaneger ar ddiwedd paragraff (1) —

and ‘relevant person’ means—

(i)any person designated and named as mentioned in sub-paragraph (b)(i) above, or

(ii)any licence exempt operator or licence holder which is not so designated.

(5Hepgorer —

(a)paragraff (2),

(b)y geiriau '(other than the Board') ym mharagraff (3)(a)(ii), ac

(c)y geiriau o'r dechrau hyd at 'the Board and' ym mharagraff (4).

Diddymiadau ac eithriadau

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymer drwy hyn ynglŷn â Chymru o 1 Ebrill 2000 ymlaen, y canlynol—

(a)Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog 1994(3);

(b)Rheoliadau Rhestri Ardrethu Canolog (Diwygio) 1996(4).

(2Bydd y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (1) yn parhau i fod ag effaith ar 1 Ebrill 2000 ac ar ôl hynny at ddibenion y canlynol neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'r canlynol—

(a)unrhyw newid i'r rhestr sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2000; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan reoliadau a wnaed o dan adran 58((5) o Ddeddf 1988 (darpariaeth arbennig ar gyfer 1995 ymlaen) sy'n ymwneud â'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â hereditament am gyfnod perthnasol fel a ddiffinnir yn yr adran honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.(6)

Dafydd Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Rhagfyr 1999

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources