1999 Rhif 3451 (Cy.49)
Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19901 a pharagraffau 1,3,4 a 5 o Atodlen 2 iddi, adran 25(2) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932 a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3, ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19904:
Enwi cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 a daw i rym ar 1 Ionawr 2000.
2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“the Act”);
ystyr “dyddiad gweithredol” yw'r dyddiad y mae'r ymddiriedolaeth i fod i ddechrau ymgymryd â'r cyfan o'r swyddogaethau a drosglwyddid iddi (“operational date”);
ystyr “dyddiad sefydlu” yw 1 Ionawr 2000 (“establishment date”);
ystyr “yr ymddiriedolaeth” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn (“the trust”).
Sefydlu'r ymddiriedolaeth2
Sefydlir drwy hyn Ymddiriedolaeth NHS a elwir Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro neu Cardiff and Vale National Health Service Trust.
Natur a swyddogaethau'r ymddiriedolaeth3
1
Sefydlir yr ymddiriedolaeth at y dibenion a bennir yn adran 5(1) o'r Ddeddf.
2
Darparu nwyddau a gwasanaethau er diben y gwasanaeth iechyd o'r ysbytai a bennir ym mharagraff (3) neu o ysbytai a thir ac adeiladau cysylltiol fydd swyddogaethau'r ymddiriedolaeth.
3
Dyma'r ysbytai a bennir er diben paragraff (2) —
i
Ysbyty Athrofaol Cymru, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4WZ;
ii
Ysbyty Llandoche, Llandoche, Penarth, CF64 2XX;
iii
Ysbyty'r Eglwys Newydd, Park Road, Caerdydd, CF14 7XB;
iv
Ysbyty Royal Hamadryad, Hunter Street, Bae Caerdydd, Caerdydd, CF10 5UQ; a
v
Yr Ysbyty a'r Ysgol Ddeintyddol, Parc y Mynydd Bychan, Caerdydd, CF14 4XW.
Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth4
1
Yn ychwanegol at y cadeirydd, bydd gan yr ymddiriedolaeth 7 cyfarwyddwr anweithredol a 5 o gyfarwyddwyr gweithredol.
2
Gan y bydd yr ymddiriedolaeth yn cael ei hystyried fel un a chanddi ymrwymiad addysgu sylweddol o fewn ystyr y paragraff 3(1)(d) o Atodlen 2 i'r Ddeddf, penodir un o'r cyfarwyddwyr anweithredol o Brifysgol Cymru.
Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfrifo'r ymddiriedolaeth5
1
1 Ebrill 2000 fydd dyddiad gweithredol yr ymddiriedolaeth.
2
31 Mawrth fydd dyddiad cyfrifo'r ymddiriedolaeth.
Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredol6
Rhwng ei dyddiad sefydlu a'i dyddiad gweithredol bydd gan yr ymddiriedolaeth y swyddogaethau canlynol —
a
gwneud contractau NHS;
b
gwneud contractau eraill gan gynnwys contractau cyflogaeth; ac
c
gwneud y pethau eraill sy'n rhesymol angenrheidiol i'w galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'i dyddiad gweithredol ymlaen.
Cymorth gan awdurdodau iechyd cyn y dyddiad gweithredol7
1
Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf —
a
yn trefnu bod y staff a'r cyfleusterau hynny y mae eu hangen i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig ar gael i'r ymddiriedolaeth tan y dyddiad gweithredol hyd nes bod staff yn cael eu trosglwyddo neu eu penodi i'r ymddiriedolaeth neu ganddi a bod cyfleusterau yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth;
b
yn trefnu bod yr adeiladau hynny y bydd eu hangen ar gael i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig tra'n aros i'r adeiladau hynny gael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth.
2
Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf yn talu dyledion yr ymddiriedolaeth, y bydd wedi mynd iddynt rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol, ac sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad a nodir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon.
3
Mae'r dyledion y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol fel a ganlyn —
a
dyled am dâl a lwfansau teithio a lwfansau eraill y cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol yr ymddiriedolaeth;
b
dyled am lwfansau teithio a lwfansau eraill aelodau'r pwyllgorau ac is-bwyllgorau'r ymddiriedolaeth nad ydynt yn gyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth hefyd;
c
dyled am dâl personau a gyflogir gan yr ymddiriedolaeth; ac
ch
unrhyw ddyled arall y gellid yn rhesymol fynd iddi gan yr ymddiriedolaeth er mwyn ei galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.5
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)