Cymorth gan awdurdodau iechyd cyn y dyddiad gweithredol7
1
Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf —
a
yn trefnu bod y staff a'r cyfleusterau hynny y mae eu hangen i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig ar gael i'r ymddiriedolaeth tan y dyddiad gweithredol hyd nes bod staff yn cael eu trosglwyddo neu eu penodi i'r ymddiriedolaeth neu ganddi a bod cyfleusterau yn cael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth;
b
yn trefnu bod yr adeiladau hynny y bydd eu hangen ar gael i alluogi'r ymddiriedolaeth i gyflawni ei swyddogaethau cyfyngedig tra'n aros i'r adeiladau hynny gael eu trosglwyddo i'r ymddiriedolaeth.
2
Bydd Awdurdod Iechyd Bro Taf yn talu dyledion yr ymddiriedolaeth, y bydd wedi mynd iddynt rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol, ac sy'n cyd-fynd â'r disgrifiad a nodir ym mharagraff (3) o'r erthygl hon.
3
Mae'r dyledion y cyfeirir atynt yn y paragraff blaenorol fel a ganlyn —
a
dyled am dâl a lwfansau teithio a lwfansau eraill y cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol yr ymddiriedolaeth;
b
dyled am lwfansau teithio a lwfansau eraill aelodau'r pwyllgorau ac is-bwyllgorau'r ymddiriedolaeth nad ydynt yn gyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth hefyd;
c
dyled am dâl personau a gyflogir gan yr ymddiriedolaeth; ac
ch
unrhyw ddyled arall y gellid yn rhesymol fynd iddi gan yr ymddiriedolaeth er mwyn ei galluogi i ddechrau gweithredu'n foddhaol o'r dyddiad gweithredol ymlaen.