Enwi cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sefydlu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro 1999 a daw i rym ar 1 Ionawr 2000.

2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (“the Act”);

  • ystyr “dyddiad gweithredol” yw'r dyddiad y mae'r ymddiriedolaeth i fod i ddechrau ymgymryd â'r cyfan o'r swyddogaethau a drosglwyddid iddi (“operational date”);

  • ystyr “dyddiad sefydlu” yw 1 Ionawr 2000 (“establishment date”);

  • ystyr “yr ymddiriedolaeth” yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Caerdydd a'r Fro a sefydlir gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn (“the trust”).