1999 Rhif 3450 (Cy. 48)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19902 a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3, gan ei fod yn barnu ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn4 er lles y gwasanaeth iechyd, ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf olaf5:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.

Diddymu Ymddiriedolaethau NHS2

1

Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch.

2

Diddymir drwy hyn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.6

Dafydd Elis ThomasY Llywydd

ATODLENORCHMYNION A DDIDDYMIR

ERTHYGL 2(2)

  • Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche (Sefydlu) 1999 (O.S. 1999/1119)

  • Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch (Sefydlu) 1999 (O.S. 1999/1118)

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer diddymu Ymddiriedolaeth NHS Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth NHS Cymunedol Caerdydd a'r Cylch ac ar gyfer diddymu'u gorchmynion sefydlu priodol.