1999 Rhif 3450 (Cy. 48)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 ac adran 5(1), a pharagraff 29(1) o Atodlen 2 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19902 a phob pŵer arall sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3, gan ei fod yn barnu ei bod yn briodol gwneud y Gorchymyn hwn4 er lles y gwasanaeth iechyd, ac ar ôl cwblhau'r ymgynghoriad a ragnodwyd o dan baragraff 29(3) o Atodlen 2 i'r Ddeddf olaf5: