Enwi a chychwyn1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) (Diddymu Rhif 2) 1999 a daw i rym ar 1 Ebrill 2000.
Diddymu Ymddiriedolaethau NHS2
1
Diddymir drwy hyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Llandoche ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymunedol Caerdydd a'r Cylch.
2
Diddymir drwy hyn y Gorchmynion a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.6
Dafydd Elis ThomasY Llywydd