Diwygio Rheoliadau 19922
Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
a
ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)”;
b
ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” y rhoddir “1.005”;
c
yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.