Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 1999 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 1999.

2

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 1992” yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 19923.

Diwygio Rheoliadau 19922

Ynglŷn â'r blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2000, diwygir Atodlenni 1, 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—

a

ym mharagraff 4(1) o Atodlen 1, yn lle'r fformwla “(A × £39.50) + (B × 0.00087)” y rhoddir y fformwla “(A × £39.90) + (B × 0.00078)”;

b

ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 yn lle “0.999” y rhoddir “1.005”;

c

yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992 y rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

Dafydd Elis ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol