(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Tir Gofal (Land in Care) (Cymru) 1999 (“Rheoliadau Tir Gofal”) a Rheoliadau Ffermio Organig (Cymru) 1999 (“y Rheoliadau Ffermio Organig”).

Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn cynnwys darpariaethau cynllun amaeth-amgylcheddol sy'n gweithredu'n rhannol raglen gylchfaol a gymeradwywyd gan y Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 7 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2078/92 (OJ Rhif L215, 30.7.92, t.85) ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n cyd-fynd â'r gofynion ar gyfer diogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad (“y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol”). Mae'r Rheoliadau Tir Gofal yn darparu ar gyfer talu cymorth i unrhyw berson sy'n gwneud cytundeb Tir Gofal â Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae'r Rheoliadau Ffermio Organig yn darparu ar gyfer talu cymorth i ffermwyr sy'n ymrwymo i gyflwyno dulliau ffermio organig ac yn cydymffurfio ag amodau rheoli penodol, yn unol ag Erthygl 2(1)(a) a (d) y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol. Diddymwyd y Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol gan Erthygl 55(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/99 (OJ Rhif L160, 26.6.99 t.80), ond, yn rhinwedd Erthygl 55(3) o'r Rheoliad olaf, mae'r Rheoliad Amaeth-Amgylcheddol yn parhau i fod yn gymwys i'r camau a gaiff eu cymeradwyo gan y Comisiwn cyn 1 Ionawr 2000.

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Tir Gofal—

a

i ganiatáu i gytundeb Tir Gofal gynnwys unrhyw ddarpariaeth y cytunir arno rhwng Cyngor Cefn Gwlad Cymru a cheisydd Tir Gofal (rheoliad 2(2));

b

i osod rhwymedigaeth ar ddeiliad cytundeb Tir Gofal i gadw cofnodion (rheoliad 2(4)); ac

c

i wneud cydymffurfiad â'r gofyniad i gadw cofnodion (rheoliad 9A o'r Rheoliadau Tir Gofal a fewnosodir gan y Rheoliadau hyn) a'r rhwymedigaeth i ganiatáu mynediad ac archwiliad (rheoliad 10 o'r Rheoliadau Tir Gofal) yn amodau ar gyfer talu cymorth (rheoliad 2(5)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Ffermio Organig:

a

i ddileu'r gofyniad bod tystysgrif gofrestru ar gyfer y llain organig gyntaf a datganiad gan y ceisydd bod yr awdurdod archwilio wedi cymeradwyo cynllun ynglŷn â'r holl uned organig yn cael eu hamgáu gyda chais am gymorth (rheoliad 3(2)); a

b

i ddarparu na fydd y Cynulliad yn derbyn unrhyw geisiadau am gymorth a geir ar neu ar ôl 4 Rhagfyr 1999 (rheoliad 3(3)).