Enwi, dehongli a chwmpas1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd 1999 (Cychwyniad Rhif 1) (Cymru) 1999.

2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “Deddf 1977” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19772 (“the 1977 Act”);

  • ystyr “Deddf 1990” yw Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19903 (“the 1990 Act”).

  • ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Iechyd 1999 (“the Act”);

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Diwrnodau penodedig2

1

1 Tachwedd 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.

2

1 Rhagfyr 1999 yw'r diwrnod a bennir i bob darpariaeth y Ddeddf a nodir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, i'r graddau y mae wedi'i nodi yno.

Darpariaeth arbed3

Er gwaethaf y diddymiadau a achosir gan baragraff 83(1) a (4) o Atodlen 4 i'r Ddeddf yn rhinwedd y Gorchymyn hwn, ymdrinir ag unrhyw gyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau NHS yng Nghymru a roddir o dan baragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf 1990 ac sydd mewn grym yn union cyn 1 Rhagfyr 1999 fel petaent wedi'u rhoi o dan, ac at ddibenion, adran 17 o Ddeddf 1977.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998

Dafydd Elis ThomasY Llywydd