(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 (“y prif Reoliadau”) yn cynnwys rheolau ar gyfer cyfrifo sylfaen treth gyngor awdurdod lleol. Defnyddir hyn at gyfrifo treth gyngor ac, yn ei hanfod, nifer yr anheddau o fewn ardal awdurdod lleol ac sy'n gyfwerth â band prisio D ydyw, gan gymryd i ystyriaeth, ymhlith pethau eraill, symiau gostyngol sy'n daladwy gan aelwydydd sy'n cynnwys person anabl yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 13 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau o ganlyniad i Reoliadau Treth Gyngor (Gostyngiadau am Anableddau) (Diwygio) 1999 sydd, o 1 Ebrill 2000 ymlaen, yn darparu y gall anheddau ym mand prisio A fod yn gymwys i ostyngiad anabledd am y tro cyntaf. Mae'r diwygiadau i'r prif Reoliadau yn sicrhau y bydd sylfaen y dreth gyngor i ardal yn cymryd i ystyriaeth effaith gostyngiadau anabledd mewn perthynas ag anheddau ym mand prisio A.