1999 Rhif 2935 (Cy.27)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 33(5) a (6), 34(4), 44(5) a (6), 45(4) a (5), 48(5) a (6), ac 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19921 ac a freiniwyd ynddo bellach2, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:
Enwi, cychwyn a chwmpas1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) (Diwygio) 1999 a deuant i rym ar 31 Hydref 1999.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio'r Rheoliadau2
Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 19953 fel a ganlyn.
1
Yn Rheoliad 4(3)(a), ar ôl y gair “dwelling”, mewnosoder “which is listed in a valuation band other than valuation band A”.
2
Yn Rheoliad 5(2), ar ôl y geiriau “exempt on that day”, ychwaneger
and, in the case of valuation band A and for a financial year beginning on or after 1 April 2000, by deducting the number calculated by applying the formula–
where–
HH is the authority’s estimate of the number of dwellings listed in band A (excluding dwellings which are to be treated as listed in that band by virtue of the provisions of Regulation 4(3) where the person who is liable to pay council tax in respect of the dwelling is liable to pay a reduced amount pursuant to the Council Tax (Reductions for Disabilities) Regulations 19924).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.5
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)