Mae Adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi Cod Ymarfer yn cynnwys y canllawiau ymarferol y mae'n credu eu bod yn briodol, o ran cyflawni swyddogaeth dderbyn gan awdurdodau addysg yn ôl lleoliad gan awdurdodau addysg, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a phaneli apelau derbyniadau.
Mae Adran 85 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cod Ymarfer ar Apelau Derbyniadau ddod i rym drwy Orchymyn.
Mae'r Cod Ymarfer yn gymwys yn bennaf i apelau derbyniadau ar gyfer y nifer a dderbynnir i ysgolion cynradd ac uwchradd o 2000/2001 ymlaen ac mae'n ymdrin â dau gategori ar wahân o apelau derbyn:
apelau gan rieni yn erbyn penderfyniad gan awdurdod derbyn ysgol i wrthod cynnig lle i'w plentyn yn yr ysgol o dan sylw; ac
apelau gan gyrff llywodraethu ysgolion cymunedol neu ysgolion gwirfoddol a reolir yn erbyn penderfyniad gan AALl i dderbyn plentyn i'r ysgol sydd gynt wedi'i wahardd yn barhaol o ddwy neu ragor o ysgolion.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Medi 1999 fel y diwrnod y daw Cod Ymarfer y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Apelau Derbyniadau i rym. Mae Cod sy'n cynnwys canllawiau i awdurdodau addysg lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir ar eu cyfrifoldebau mewn perthynas ag apelau derbyniadau eisoes wedi'i gyhoeddi ar 20 Awst 1999.
Gellir cael copïau o'r ddau God o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Mae modd eu gweld hefyd ar y Rhyngrwyd yn www.cymru.gov.uk.