Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999
National Assembly For Wales
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2014-06-16
ADDYSG, CYMRU
Mae Adran 84 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi Cod Ymarfer yn cynnwys y canllawiau ymarferol y mae'n credu eu bod yn briodol, o ran cyflawni swyddogaeth dderbyn gan awdurdodau addysg yn ôl lleoliad gan awdurdodau addysg, cyrff llywodraethu ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir a phaneli apelau derbyniadau.
1999 Rhif 2893 (Cy.26)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Addysg (Apelau Derbyniadau Ysgol: Cod Ymarfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (Diwrnod Penodedig) 1999
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 85(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 19981 ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad.2