Y cylch gwerthuso5

1

Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (4), bydd cylch gwerthuso pob athro ysgol yn gyfnod parhaus o ddwy flynedd.

2

Os bydd yr athro ysgol yn symyd i swydd mewn ysgol arall neu i swydd newydd yn bennaeth, bydd y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

3

Os bydd yr athro ysgol yn symud i swydd newydd yn yr un ysgol, gall y pennaeth benderfynu bod y cylch gwerthuso yn dechrau eto.

4

Os daw'r athro ysgol yn bennaeth dros dro, caiff y corff gwerthuso benderfynu —

a

bod y cylch gwerthuso yn dechrau eto; a

b

bod yr athro ysgol yn cael ei werthuso fel pennaeth.