Dehongli2
1
Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall —
mae i “athro cymwysedig” yr un ystyr â “qualified teacher” yn adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg 19884;
ystyr “athro ysgol” yw athro cymwysedig a gyflogir mewn unrhyw un ysgol i weithio naill ai yn amser llawn neu heb fod yn llai na deugain y cant o amser llawn, ac eithrio ar gontract sy'n parhau am lai nag un flwyddyn ysgol;
ystyr “corff gwerthuso” yw:
- a
yr awdurdod addysg lleol yn achos athro sy'n cael ei gyflogi mewn ysgol heblaw'r ysgol y mae paragraf (b) yn cyfeirio ati; a
- b
corff llywodraethu'r ysgol yn achos athro sy'n cael ei gyflogi mewn ysgol a gynhelid gynt â grant;
- a
ystyr “record gwerthuso” yw'r datganiadau gwerthuso a baratoir o dan Rheoliad 10(2) mewn perthynas ag athro ysgol;
ystyr “ysgol” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.
ystyr “ysgol a gynhelid gynt â grant” yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol a oedd yn union cyn 1 Medi 1999 yn ysgol a gynhelid â grant neu'n ysgol arbennig a gynhelid â grant.
2
Yn y Rheoliadau hyn, nid yw unrhyw gyfeiriad at ysgol gymunedol neu arbennig gymunedol, wirfoddol a reolir, wirfoddol a gynorthwyir, neu sefydledig neu arbennig sefydledig yn cynnwys unrhyw ysgol o'r fath sy'n ysgol a gynhelid gynt â grant.