Enwi, cychwyn, hyd a lled a darpariaeth drosiannol1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
2
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag athrawon ysgol mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru, ac, mewn perthynas â'r athrawon ysgol hynny, daw effaith Rheoliadau Addysg (Gwerthuso Athrawon Ysgol) 19913 (“Rheoliadau 1991”) i ben.
3
Bydd i unrhyw beth a wnaed cyn 1 Medi 1999 gan neu mewn perthynas ag athro o dan unrhyw ddarpariaeth a gynhwyswyd yn Rheoliadau 1991 effaith, ar y dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi'i wneud o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hyn.