(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio ffioedd penodol o ystyr “ffioedd” ym Mhennod 1 o Ran II o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (“Deddf 1998”).

Mae Adran 28 o Ddeddf 1998 yn darparu diffiniad o “ffioedd” at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf honno, sy'n eithrio categorïau penodol o ffioedd a “such other fees as may be prescribed”.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adran 28 o Ddeddf 1998 ac maent yn rhagnodi categorïau pellach o ffioedd a eithrir. Mae'r rhain wedi'u nodi yn yr Atodlen.

Gwaherddir sefydliadau addysg bellach rhag codi ffioedd “atodol”. Mae'r gwaharddiad yn cael ei wneud o dan bwerau a roddir gan Adran 26 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998: gorfodir amod ar Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddo osod amod ar y cyllid y mae'n ei ddyrannu i sefydliadau sy'n darparu addysg uwch.

O dan drefniadau'r Llywodraeth ar gyfer cyllido addysg bellach, mae myfyrwyr sy'n gymwys i gael cymorth yn gwneud cyfraniad personol at eu ffioedd ar sail asesiad o'u hincwm. Mae'n bosibl na fydd hyn yn fwy na œ1,025 am y flwyddyn sy'n dechrau yn hydref 1999.

Er hynny, yn y gorffennol mae prifysgolion a cholegau wedi codi tâl am nwyddau a gwasanaethau nad ydynt yn rhan o “ddarpariaeth graidd” cwrs. Byddai'r gwaharddiad yngŷyn â ffioedd atodol yn atal hynny, felly mae'r Rheoliadau hyn yn eithrio taliadau penodol o'r fath o'r diffiniad o ffioedd a gwmpesir gan yr amod sydd wedi'i orfodi. Diben y Rheoliadau hyn yw caniatáu i brifysgolion a cholegau barhau i godi tâl am nwyddau neu wasanaethau fel y maent wedi'i wneud yn draddodiadol. Mae'r Rheoliadau felly yn rhoi sail gyfreithiol ar gyfer parhau ag arferiad sy'n bodoli eisoes.

Mae'r Rheoliadau yn diffinio “darpariaeth graidd” i olygu darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n gysylltiedig â chwrs sydd wedi'i fwriadu, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr ennill hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle mae mwy nag un radd neu gymhwyster wedi'i gynnwys mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).

Bydd y Rheoliadau hyn yn caniatáu codi tâl am nwyddau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd neu lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr; am wasanaethau nad ydynt yn rhan o'r ddarpariaeth graidd; unrhyw ffi sy'n ad-daliad o unrhyw ffi neu dâl y mae'r sefydliad yn ei dalu i rywun arall mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs, neu â chwblhau'r cwrs; unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu ddiffyg gan y myfyriwr; unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.