1999 Rhif 2862 (Cy. 22)
Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) 1999
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr) (Eithriadau) (Cymru) a deuant i rym ar 1 Medi 1999.
2
Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
Cymhwyso2
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i'r diffiniad o ffioedd sy'n daladwy i sefydliadau yng Nghymru at ddibenion Pennod 1 o Ran II o'r Ddeddf.
Ffioedd a eithrir o'r diffiniad o ffioedd yn adran 28(1) o'r Ddeddf.3
Rhagnodir unrhyw ffi o ddisgrifiad a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn at ddiben adran 28(1)(e) o'r Ddeddf (sy'n darparu bod ffioedd sy'n cael eu rhagnodi wedi'u heithrio o ystyr ffioedd ym Mhennod 1 o Ran II o'r Ddeddf).
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
ATODLENFFIOEDD A EITHRIR O'R DIFFINIAD O FFIOEDD YN ADRAN 28(1) O'R DDEDDF.
RHAN 1DEHONGLI
1
Yn yr Atodlen hon ystyr “darpariaeth graidd” mewn perthynas â nwyddau neu wasanaethau yw darparu nwyddau neu wasanaethau sy'n ymwneud â chwrs a fwriedir, drwy alluogi'r myfyriwr i gael medrau neu wybodaeth, i roi cyfle i'r myfyriwr gyrraedd hyd at y radd neu'r cymhwyster uchaf ar gyfer y cwrs (neu, lle bo mwy nag un radd neu gymhwyster yn gynwysedig mewn cwrs, yr uchaf o'r holl raddau neu gymwysterau ar gyfer y cwrs).
RHAN IIDISGRIFIAD O'R FFIOEDD
2
Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu nwyddau i'r myfyriwr (p'un ai drwy werthu neu hurio) heblaw nodiadau ar ddarlithoedd unigol, crynodebau o ddarlithoedd neu ddeunyddiau tebyg —
a
lle nad yw'r nwyddau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs, neu
b
lle daw'r nwyddau yn eiddo i'r myfyriwr (p'un ai adeg talu'r ffi neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny),
ar yr amod, lle mae nwyddau'n ffurfio rhan o'r ddarpariaeth graidd i'r cwrs a'i bod yn angenrheidiol trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr mewn cysylltiad ag iechyd neu ddiogelwch y myfyriwr wrth fynychu'r cwrs, ni fydd is-baragraff (b) yn gymwys oni fydd y sefydliad hefyd yn trefnu bod y nwyddau ar gael i'r myfyriwr (heb i'r nwyddau ddod yn eiddo i'r myfyriwr) heb dâl.
3
Unrhyw ffi sy'n daladwy mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau i'r myfyriwr lle nad yw'r gwasanaethau yn rhan o'r ddarpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.
At ddibenion y paragraff hwn ymdrinnir â rhoi llyfrau neu ddeunyddiau eraill ar gadw mewn llyfrgell fel darpariaeth graidd ar gyfer y cwrs.
4
Unrhyw ffi sy'n ad-daliad o gost unrhyw ffi neu bris y mae'r sefydliad yn ei dalu i ryw berson arall ac eithrio pris a godir mewn perthynas â darparu nwyddau i'r sefydliad, mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs, neu â chwblhau'r cwrs gan y myfyriwr.
5
Unrhyw ffi mewn perthynas ag unrhyw dreuliau gweinyddol ychwanegol a dynnir gan y sefydliad o ganlyniad i unrhyw esgeulustod neu fethiant gan y myfyriwr (gan gynnwys treuliau gweinyddol sy'n deillio o'r ffaith bod y myfyriwr yn ailsefyll arholiad, asesiad o waith cwrs, neu fodiwl cwrs).
6
Unrhyw ffi mewn perthynas â chyfleusterau teithio a ddarperir gan y sefydliad.
(Nid yw'r Nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)