Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
2
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Rheoliadau 1997” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19973;
ystyr “Rheoliadau 1986” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 19864;
ystyr “Rheoliadau 1999” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 19995 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 19996.
3
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.