(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) sy'n darparu i daliadau gael eu gwneud drwy gyfrwng system dalebau ar gyfer costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â darparu, amnewid a thrwsio offer optegol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasnaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) sy'n darparu ar gyfer y trefniadau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr offthalmig yn darparu gwasanaethau offthalmig odanynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i Reoliadau 1997 a Rheoliadau 1986, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Offthalmig) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 ac sy'n gymwys i Loegr, gael effaith yng Nghymru.
Mewn perthynas â Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1986 mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o “amount withdrawn” ac yn rhoi diffiniad o “disabled person’s tax credit” yn lle'r diffiniad o “disability working allowance” a hefyd yn rhoi diffiniad o “working families' tax credit” yn lle'r diffiniad o “family credit”.
Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 1997 yn diffinio'r personau sy'n gymwys i gael taliadau i dalu costau sbectol ac offer optegol arall a ddarparwyd iddynt, neu i gyfrannu at y costau hynny. Mae'r diwygiadau i'r rheoliad hwn yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.Yn yr un modd mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 13 o Reoliadau 1986 sy'n diffinio pwy sy'n gymwys i gael profion golwg rhad ac am ddim.
Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael profion golwg rhad ac am ddim neu daliadau at gostau sbectol ac offer optegol arall yn parhau tra bod credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl yn parhau i gael ei dalu.