Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) Diwygio (Cymru) 1999
Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn —
(3)
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio Rheoliadau 19972.
“(5)
Diwygio Rheoliadau 19863.
“(3)
In respect of paragraph (1) of this regulation and regulation 13 the amendments made by the National Health Service (Optical Charges and Payments) and (General Ophthalmic Services) Regulations 199967 and the National Health Service (General Ophthalmic Services) (Amendment) Regulations 199978 shall also have effect in Wales.”.
Darpariaeth drosiannol4.
(1)
Lle'r oedd person, neu aelod o'i deulu, yn union cyn 5 Hydref 1999 yn cael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu, fel y bo'r achos, ni fydd y diwygiadau a wneir gan Reoliadau 1999, fel y maent yn cael effaith yng Nghymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yn ei achos ef cyhyd a'i fod ef, neu aelod o'i deulu, fel y bo'r achos, yn parhau i gael lwfans gweithio i'r anabl neu gredyd teulu.
(2)
Yn y rheoliad hwn, bydd “lwfans gweithio i'r anabl” a “chredyd teulu” yn parhau gyda'r ystyr a roddir i “disability working allowance” a “family credit” yn Rheoliadau 1997 neu Reoliadau 1986, fel y bo'r achos, yn union cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Effaith y Rheoliadau hyn yw diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) sy'n darparu i daliadau gael eu gwneud drwy gyfrwng system dalebau ar gyfer costau a dynnwyd gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â darparu, amnewid a thrwsio offer optegol. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasnaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) sy'n darparu ar gyfer y trefniadau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig ac optegwyr offthalmig yn darparu gwasanaethau offthalmig odanynt.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud i'r diwygiadau testunol i Reoliadau 1997 a Rheoliadau 1986, sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Offthalmig) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 1999 ac sy'n gymwys i Loegr, gael effaith yng Nghymru.
Mewn perthynas â Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1986 mae'r diwygiadau yn mewnosod diffiniad o “amount withdrawn” ac yn rhoi diffiniad o “disabled person’s tax credit” yn lle'r diffiniad o “disability working allowance” a hefyd yn rhoi diffiniad o “working families' tax credit” yn lle'r diffiniad o “family credit”.
Mae Rheoliad 8 o Reoliadau 1997 yn diffinio'r personau sy'n gymwys i gael taliadau i dalu costau sbectol ac offer optegol arall a ddarparwyd iddynt, neu i gyfrannu at y costau hynny. Mae'r diwygiadau i'r rheoliad hwn yn cymryd i ystyriaeth y newidiadau sy'n digwydd ar 5 Hydref 1999 yn y systemau treth incwm a nawdd cymdeithasol pan ddisodlir credyd teulu a lwfans gweithio i'r anabl gan gredyd treth teuluoedd mewn gwaith a chredyd treth person anabl.Yn yr un modd mae'r diwygiadau yn newid rheoliad 13 o Reoliadau 1986 sy'n diffinio pwy sy'n gymwys i gael profion golwg rhad ac am ddim.
Mae'r rheoliadau'n cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n darparu bod yr hawl i gael profion golwg rhad ac am ddim neu daliadau at gostau sbectol ac offer optegol arall yn parhau tra bod credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl yn parhau i gael ei dalu.