1999 Rhif 2840 (Cy.20)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adrannau 83A, 126(4) a 128(1) o Ddeddf Gwasnaeth Iechyd Gwladol 19771 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2:
Enwi, cychwyn, dehongli a hyd a lled1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) (Diwygio) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 5 Hydref 1999.
2
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Costau Teithio a Dileu Taliadau) 19883.
3
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.
Diwygio'r prif Reoliadau2
Ar ddiwedd rheoliad 2 o'r prif Reoliadau mewnosodir y paragraff canlynol —
5
In respect of regulations 2 and 4 and Schedule 1 the amendments made by the National Health Service (Travelling Expenses and Remission of Charges) Amendment Regulations 19994 shall also have effect in Wales.
Darpariaeth Drosiannol3
1
Lle'r oedd hawl gan berson yn union cyn 5ed Hydref 1999 i gael dilead o daliadau neu daliad o gostau teithio yn rhinwedd rheoliad 4(c) neu (d) o'r prif Reoliadau (dilead neu daliad wrth gyfeirio at hawl i gael gredyd teulu), neu yn rhinwedd rheoliad 4(g) neu (h) o'r prif Reoliadau (dileu neu dalu wrth gyfeirio at hawl i gael lwfans gweithio i'r anabl), bydd yr hawl honno'n parhau tra bydd credyd teulu neu lwfans gweithio i'r anabl, fel y bo'r achos, yn parhau i gael ei dalu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.5
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)