xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 3(2) a 10

ATODLEN 3ATHRAWON CYMWYSEDIG A DARPARIAETHAU TROSIANNOL YN YMWNEUD AG ATHRAWON CYMWYSEDIG

1.—(1Bydd person yn athro cymwysedig i ddiben rheoliad 10 (ond yn ddarostyngedig i reoliadau 11 i 13) —

(a)os oedd yn gymwysedig i gael ei gyflogi fel athro yn union cyn 1 Medi 1999 yn rhinwedd Atodlen 3 i Reoliadau 1993(1) ; neu

(b)os yw wedi cael hysbysiad ysgrifenedig gan y Cynulliad ei fod yn athro cymwysedig, gan fod y Cynulliad wedi'i fodloni ar 1 Medi 1999 neu wedyn ei fod yn berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 9 ac, os yw'n berson a grybwyllir ym mharagraff 7 neu 8, fod y datganiad a gyflwynwyd gan y corff argymell neu Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey (fel y bo'r achos) yn gywir; neu

(c)os yw'n athro cymwysedig o dan reoliadau sydd o bryd i'w gilydd mewn grym o dan adran 218(2) o Ddeddf Diwygio Addysg ynglŷn â Lloegr,

ac yn achos person sy'n cael hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (b) bydd y person, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), yn gymwysedig o'r dyddiad y bydd y Cynulliad yn ei ddarparu yn yr hysbysiad.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), gall y Cynulliad ddarparu i berson a grybwyllir ym mharagraffau 2 i 9 fod yn athro cymwysedig o ddyddiad nad yw'n fwy na blwyddyn cyn yr hysbysiad i'r graddau bod hynny'n briodol gan roi sylw i holl amgylchiadau'r achos.

(3Yn achos person a grybwyllir ym mharagraff 7 neu 9, ni fydd y Cynulliad yn darparu i'r person fod yn athro cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad pan fydd yr asesiad y cyfeirir ato ym mharagraff 7 neu 9 (fel y bo'r achos), wedi'i gwblhau.

(4Yn achos person a grybwyllir ym mharagraff 8, ni fydd y Cynulliad yn darparu i'r person fod yn athro cymwysedig o ddyddiad cyn y dyddiad pan gwblhaodd y cyfnod o wasanaeth fel athro a drwyddedwyd gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel a bennir yn natganiad Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey.

2.—(1Mae'r person —

(a)yn dal gradd neu gymhwysiad cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwysiad arall cyfatebol a roddwyd gan sefydliad estron; a

(b)wedi cwblhau cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru.

(2At ddibenion y paragraff hwn —

(a)ystyr “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” yw sefydliad a gafodd ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig, heblaw un sy'n sefydliad, neu sy'n gysylltiedig â sefydliad, neu sy'n ffurfio rhan o sefydliad y mae prif leoliad ei weithgareddau y tu allan i'r Deyrnas Unedig, ac sy'n cynnwys y Cyngor Cymwysterau Academaidd Cenedlaethol;

(b)ystyr “sefydliad estron” yw unrhyw sefydliad heblaw sefydliad yn y Deyrnas Unedig; ac

(c)ystyr “sefydliad achrededig” yw sefydliad a achredir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, fel darparydd cyrsiau sy'n bodloni'r cyfryw ddarpariaethau ynglŷn â chwricwla a meini prawf eraill y gellir eu pennu o bryd i'w gilydd gan y Cynulliad.

3.  Mae'r person wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

4.  Mae'r person wedi'i gofrestru fel athro addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

5.  Rhoddwyd cadarnhad i'r person ei fod wedi'i gydnabod fel athro mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan yr Adran Addysg, Swyddfa Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei ddileu wedyn.

6.  Mae'r person yn berson sydd o ran proffesiwn athro ysgol, yn dod o dan Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 89/48 EEC y Cyngor(2) ar system gyffredinol i gydnabod diplomâu addysg-uwch a ddyfernir i'r sawl sy'n cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynnol sy'n parhau am dair blynedd o leiaf, fel y'i hestynnir gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(3) fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(4).

7.—(1Pan roddir awdurdodiad i'r person, mae'r corff argymell wedi cyflwyno i'r Cynulliad —

(a)argymhelliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i'r person; a

(b)y datganiad a ddisgrifiwyd yn is-baragraff (2)

(2Mae'r datganiad yn ddatganiad bod y person —

(a)naill ai wedi —

(i)cwblhau gwasanaeth yn llwyddiannus fel athro graddedig neu athro cofrestredig (fel y bo'r achos) am gyfnod yr awdurdodiad ac wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant a gynigiwyd yn yr argymhelliad ar gyfer awdurdodiad, neu

(ii)wedi cwblhau ddim llai na thri mis o wasanaeth fel athro graddedig neu dim llai na blwyddyn o wasanaeth fel athro cofrestredig (fel y bo'r achos) ac wedi gwneud y fath gynnydd yn ystod ei gyfnod o wasanaeth fel athro graddedig neu athro cofrestredig (fel y bo'r achos) nad oedd angen iddo ym marn y corff argymell, yng ngoleuni'r cynnydd hwnnw, gwblhau'r gwasanaeth hwnnw am gyfnod yr awdurdodiad cyn cael ei asesu fel y cyfeirir ato ym mharagraff (b);

(bwedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig; ac

(cyn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster o safon gyfatebol i hynny a roddwyd gan sefydliad addysgol yn rhywle arall.

(3Yn y paragraff hwn —

(a)ystyr “person cymwys”, mewn achos lle mae'r corff argymell yn sefydliad achrededig, y sefydliad hwnnw, a'i ystyr mewn unrhyw achos arall yw'r person y mae'r Cynulliad wedi'i gymeradwyo at ddibenion cyflawni'r asesiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (2)(b);

(b)ystyr “safonau penodedig” yw'r safonau, sy'n gymwys adeg yr asesiad, ac a bennir gan y Cynulliad fel y safonau sy'n ofynnol gan berson sy'n ceisio dod yn athro cymwysedig.

(c)mae i “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” yr un ystyr ag ym mharagraff 2(2)(a).

8.  Mae Cyngor Addysg Taleithiau Guernsey wedi cyflwyno i'r Cynulliad argymhelliad y dylid dyfarnu statws athro cymwysedig i'r person ac-

(a)datganiad ei fod wedi cwblhau dwy flynedd o wasanaeth amser-llawn neu gyfnod cyfatebol o wasanaeth rhan-amser fel athro wedi'i drwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded;

(b)datganiad —

(i)ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus ddim llai na un flwyddyn o wasanaeth fel athro wedi'i drwyddedu gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded, a

(ii)ei fod cyn dyddiad cychwyn y drwydded wedi cyrraedd 24 oed, a

(iii)ei fod cyn dyddiad cychwyn y drwydded nad oedd wedi'i gyflogi am lai na dwy flynedd fel athro neu ddarlithydd mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinesig), neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig neu fel hyfforddwr neu Swyddog Addysg yn y Lluoedd Arfog y Goron neu fel hyfforddwr o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 3 o Atodlen 2 ac nad oedd wedi'i ddiswyddo am resymau heblaw colli gwaith; neu

(c)datganiad —

(i)ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus ddim llai nag un tymor ysgol o wasanaeth fel athro trwyddedig a'r hyfforddiant a gynigwyd yn yr argymhelliad am drwydded, a

(ii)cyn dyddiad cychwyn y drwydded ei fod wedi cwblhau'n llwyddiannus naill ai —

(aa)cwrs hyfforddiant cychwynnol yn para o leiaf dair blynedd ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol y tu allan i Gymru a Lloegr, neu

(bb)cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl-raddedig o hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn ysgolion o'r fath (p'un ai yn yr un sefydliad neu beidio), a

(iii)na chafodd ei gyflogi am lai na blwyddyn fel athro neu ddarlithydd mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinesig), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysgol arall yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall ac na chafodd ei ddiswyddo am resymau heblaw fod ei swydd wedi mynd yn ddiangen.

9.—(1Mae'r person —

(a)ym marn y Cynulliad yn berson addas i fod yn athro mewn ysgol;

(b)wedi cwblhau rhaglen hyfforddi yn foddhaol;

(c)wedi'i asesu gan berson cymwys fel un sy'n bodloni'r safonau penodedig;

(d)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig, neu gymhwyster o safon sy'n cyfateb iddi ac a roddwyd gan sefydliad addysgol yn rhywle arall;

(e)wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gyrraedd gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

(f)wedi llwyddo mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon ofynnol i gyrraedd gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd, os ganwyd y person ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod cyfnod ei hyfforddiant wedi addysgu disgyblion iau nag 11 oed; a

(g)wedi cyrraedd odran 24 oed.

(2Yn y paragraff hwn —

(a)ystyr “person cymwys”, pan fydd trefnydd y rhaglen hyfforddi yn sefydliad achrededig, y sefydliad hwnnw, ac mewn unrhyw achos arall y person y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo at y diben o gyflawni'r asesiad fel y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c);

(b)ystyr “safonau penodedig” yw'r safonau, sy'n gymwys adeg yr asesiad, ac a bennir gan y Cynulliad fel y safonau sy'n ofynnol gan berson sy'n ceisio dod yn athro cymwysedig;

(c)ystyr “rhaglen hyfforddi” yw rhaglen hyfforddi nad yw'n llai na thri mis mewn ysgol, heblaw uned cyfeirio disgyblion, neu mewn ysgol annibynnol yn dilyn cais a wnaed gan y corff sy'n trefnu'r hyfforddiant i'r Cynulliad ac a fydd yn cynnwys y manylion y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt, ac ar yr amod bod y Cynulliad wedi cymeradwyo'r rhaglen fel rhaglen sy'n arwain at statws athro cymwysedig cyn i'r person gychwyn arni;

(d)mae i “sefydliad yn y Deyrnas Unedig” yr un ystyr ag sydd ym mharagraff 2(2)(a).

(1)

O.S. 1993/543; amnewidiwyd Atodlen 3 newydd gan O.S.1997/2679.

(2)

OJ Rhif L19, 24.1.89, t16.

(3)

Gorch 2073.

(4)

Gorch 2183.