Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 10

ATODLEN 2ACHOSION AC AMGYLCHIADAU LLE GELLIR CYFLOGI ATHRAWON ANGHYMWYSEDIG MEWN YSGOLION

RHAN 1CYFFREDINOL

Yr athrawon anghymwysedig presennol mewn dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin

1.—(1Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig y caniatawyd ei gyflogi fel athro cynorthwyol mewn ysgol feithrin neu fel athro dosbarth meithrin gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael ei gyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.

(2Caiff athro o'r fath barhau i gael ei gyflogi fel y'i cyflogwyd yn union cyn 1 Medi 1989.

Myfyrwyr-athrawon

2.—(1Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig dros 18 oed sydd naill ai-

(a)ar ôl cael ei dderbyn ar gwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad achrededig yng Nghymru neu Loegr, yn disgwyl cael lle ar y cwrs hwnnw; neu

(b)ar ôl cael ei dderbyn ar y cyfryw gwrs, wedi methu ei gwblhau'n foddhaol erbyn y dyddiad ar ddiwedd y cyfnod sy'n ofynnol fel arfer ar ei gyfer, ond yn ystod y flwyddyn sy'n dilyn y dyddiad hwnnw, yn parhau â'r cwrs gyda golwg ar ei gwblhau o fewn y flwyddyn honno.

(2Gellir cyflogi athro o'r fath fel athro mewn ysgol (heblaw mewn uned cyfeirio disgyblion) fel na fydd, er hynny —

(a)y cyfnod agregedig y cafodd ei gyflogi amdano yn rhinwedd y paragraff hwn, paragraff 2(2) o Atodlen 2 i Reoliadau 1993 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Reoliadau 1989, gan un neu fwy o awdurdodau neu gyrff, yn hwy na dwy flynedd neu'r cyfnod hwy, os o gwbl, a gymeradwyir yn ei achos gan y Cynulliad; a

(b)yn ofynnol iddo gymryd cyfrifoldeb am ddosbarth nac addysgu pwnc nas dysgir hefyd gan athro cymwysedig yn yr ysgol.

Hyfforddwyr gyda chymwysterau neu brofiad arbennig

3.—(1Bydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig a benodwyd neu y bwriedir ei benodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu fedr neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol) y mae eu haddysgu yn gofyn am gymwysterau neu brofiad arbennig os, ar adeg ei benodiad —

(a)mae'r awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol sydd heb gyllideb ddirprwyedig neu uned gyfeirio disgyblion), mae'r corff llywodraethu wrth weithredu gyda chytundeb yr awdurdod addysg lleol (yn achos ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sydd â chyllideb ddirprwyedig) neu'r corff llywodraethu (yn achos ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod addysg lleol) wedi'i fodloni ynglŷn â'i gymwysterau neu fel bo'r achos, ei brofiad; a

(b)nad oes unrhyw athro cymwysedig addas, athro graddedig neu athro cofrestredig ar gael i'w benodi neu i roi'r hyfforddiant.

(2Gellir cyflogi'r cyfryw athro mewn ysgol i roi'r hyfforddiant fel uchod, yn ddarostyngedig i baragraff (3), am y cyfnod nad oes athro cymwysedig, athro graddedig neu athro cofrestredig addas ar gael i'w benodi neu i roi hyfforddiant.

(3Yn achos athro o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982, bydd i baragraff (2) effaith fel petai'r geiriau “yn ddarostyngedig i baragraff (3)” tan y diwedd wedi'u hepgor —

(a)os oedd ei benodiad am gyfnod penodedig, os ac ar yr amod nad yw'r cyfnod hwnnw wedi dirwyn i ben; neu

(b)os oedd ei benodiad am gyfnod amhenodedig, oni fynegwyd yn wahanol i hynny mai dros dro yn unig ydoedd.

Athrawon dros dro

4.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) isod, gellir cyflogi athro anghymwysedig mewn ysgol (heblaw mewn uned gyfeirio disgyblion)-

(a)os mae wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno; a

(b)os caiff ei gyflogi mewn unrhyw swydd unigol mewn ysgol (naill ai drwy absenoldeb deiliad y swydd honno neu fel arall) am gyfnodau nad ydynt yn hwy na chyfanswm o bedwar mis.

(2Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys yn achos athro anghymwysedig ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd yn dechrau ar y diwrnod y caiff ei gyflogi gyntaf fel athro mewn ysgol ddirwyn i ben.

RHAN IIATHRAWON GRADDEDIG

5.—(1Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio uned cyfeirio disgyblion.

6.—(1Yn dilyn argymhelliad y corff, gall y Cynulliad rhoi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw.

(2Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion a benderfynnir gan y Cynulliad a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).

(3Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad —

(a)yn ei farn ef yn berson addas i fod yn athro mewn ysgol;

(b)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a roddir gan sefydliad addysgol yng Nghymru neu Loegr, neu gymhwyster o safon sy'n cyfateb i hynny a roddir gan sefydliad addysgol yn rhywle arall;

(c)wedi cyrraedd y safon sy'n ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

(d)os ganwyd y person ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod cyfnod ei awdurdodiad y bwriedir iddo addysgu disgyblion o dan 11 oed, wedi cyrraedd mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon sy'n ofynnol i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; a

(e)(i)y bydd wedi cyrraedd 24 oed erbyn y dyddiad y bwriedir iddo ddechrau gweithio fel athro graddedig, neu

(ii)y bydd wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.

(4Bydd yn cynnwys manylion am yr hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad ac am hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant.

(5Bydd yn cynnwys manylion am yr ysgol neu'r ysgolion lle bwriedir neu lle gellir cyflogi'r person a enwir yn y cais (ac y mae'n bosibl na fydd, yn unol â pharagraff 5(2), yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion).

(6Bydd yn cynnwys enw'r sefydliad neu'r corff a fydd yn gyflogwr i'r person.

7.  Bydd hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant yn briodol i angen y person am brofiad a hyfforddiant o addysgu ymarferol, ac yn achos argymhelliad cyntaf lle bydd y person yn cael ei gyflogi'n llawn amser, ni fydd yn llai na thri mis nac yn fwy nag un flwyddyn.

8.  Os yw'r corff argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad, gellir cyflogi'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw dros dro fel athro graddedig yn yr ysgol neu'r ysgolion a bennir yn yr argymhelliad tan 14 diwrnod ar ôl i'r Cynulliad roi gwybod i'r corff argymell am ei benderfyniad i roi'r awdurdodiad neu beidio.

9.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd awdurdodiad yn parhau mewn grym am gyfnod yr hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad.

(2Bydd awdurdodiad yn dod i ben yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol —

(a)os bydd athro graddedig yn peidio â chael ei gyflogi yn yr ysgol a bennwyd yn yr argymhelliad am awdurdodiad neu, os oedd yr argymhelliad yn pennu mwy nag un ysgol, os yw'n peidio â chael ei gyflogi yn unrhyw un o'r ysgolion a bennir felly oni bai bod y naill beth neu'r llall yn digwydd oherwydd newid statws yr ysgol neu'r ysgolion (fel y bo'r achos) i fath gwahanol o ysgol neu ysgolion;

(b)os yw'r athro graddedig yn peidio â chael ei gyflogi gan y sefydliad neu'r corff a enwir yn yr argymhelliad ac eithrio —

(i)pan fydd hynny'n digwydd oherwydd newid statws yr ysgol lle mae'n cael ei gyflogi i fath gwahanol o ysgol, neu

(ii)pan fydd y cyflogwr a enwir yn yr argymhelliad yn awdurdod addysg lleol ac yn union ar ôl peidio â chael ei gyflogi gan yr awdurdod hwnnw mae'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg arall.

10.  Bydd y corff argymell yn peri i'r athro graddedig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 6(4).

11.  Pan fydd awdurdodiad yn dirwyn i ben yn rhinwedd paragraff 9(2) bydd y corff argymell yn adrodd ffeithiau'r achos i'r Cynulliad.

RHAN IIIATHRAWON COFRESTREDIG

12.—(1Bydd y paragraff hwn yn gymwys i berson nad yw'n athro cymwysedig ond sydd wedi cael awdurdodiad i addysgu yn unol â'r Rhan hon o'r Atodlen hon.

(2Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rhan hon o'r Atodlen hon, gellir cyflogi'r fath berson fel athro mewn ysgol, ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion.

13.—(1Yn unol ag argymhelliad y corff argymell gall y Cynulliad roi awdurdodiad addysgu i'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw.

(2Bydd argymhelliad i awdurdodi yn cynnwys y manylion hynny y bydd y Cynulliad yn penderfynu arnynt a bydd hefyd yn cynnwys y manylion a nodir yn is-baragraffau (3) i (6).

(3Bydd yn cynnwys datganiad gan y corff argymell fod y person a enwir yn yr argymhelliad —

(a)yn ei farn ef yn berson addas i fod yn athro mewn ysgol;

(b)(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol ar gyfer athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac sy'n cael ei gydnabod fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno, neu

(ii)y bydd wedi cyrraedd 24 oed erbyn y dyddiad pan gynigir iddo gychwyn ei waith fel athro cofrestredig a'i fod wedi cwblhau'n llwyddiannus —

(aa)dim llai na dwy flynedd o addysg uwch yng Nghymru neu Loegr, neu

(bb)addysg gymaradwy naill ai'n llawn-amser neu'n rhan-amser boed yng Nghymru neu Loegr neu yn rhywle arall;

(c)wedi cyrraedd y safon ofynnol mewn Saesneg a mathemateg i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd;

(d)os ganwyd y person cyn neu ar ôl 1 Rhagfyr 1979 ac yn ystod y cyfnod ei awdurdodiad, y bwriedir iddo addysgu disgyblion o dan 11 oed, wedi llwyddo i gyrraedd mewn pwnc gwyddonol unigol neu mewn pwnc gwyddonol cyfun y safon a ofynnir i gael gradd C yn y Dystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd; ac

(e)wedi'i dderbyn ar raglen astudio sy'n arwain at ddyfarniad o radd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol.

(4Bydd yn cynnwys manylion o'r hyfforddiant y bwriedir ei roi i'r person a enwir yn yr argymhelliad a hyd cyfnod yr hyfforddiant arfaethedig.

(5Bydd yn cynnwys manylion am yr ysgol neu'r ysgolion lle bwriedir neu lle gellir cyflogi'r person a enwir yn y cais (ac na fydd, yn unol â pharagraff 12(2), yn cynnwys uned cyfeirio disgyblion).

(6Bydd yn cynnwys enw'r sefydliad neu'r corff a fydd yn gyflogwr i'r person.

14.  Bydd hyd cyfnod arfaethedig yr hyfforddiant yn briodol i angen y person am brofiad a hyfforddiant o addysgu ymarferol a hyfforddiant, ac yn achos argymhelliad cyntaf lle bydd y person yn cael ei gyflogi'n amser llawn, ni fydd yn llai na un flwyddyn nac yn fwy na ddwy flynedd.

15.  Lle mae'r corff argymell wedi cyflwyno argymhelliad i'r Cynulliad, gellir cyflogi'r person a enwir yn yr argymhelliad hwnnw dros dro fel athro cofrestredig yn yr ysgol neu'r ysgolion a bennir yn yr argymhelliad tan 14 diwrnod ar ôl i'r Cynulliad roi gwybod i'r corff argymell ei benderfyniad i roi'r awdurdodiad neu beidio.

16.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd awdurdodiad yn parhau mewn grym am gyfnod yr hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad.

(2Bydd awdurdodiad yn dod i ben yn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol —

(a)os bydd athro cofrestredig yn peidio â chael ei gyflogi yn yr ysgol a bennwyd yn yr argymhelliad am awdurdodiad neu, lle'r oedd yr argymhelliad yn pennu mwy nag un ysgol, os yw'n peidio â chael ei gyflogi yn unrhyw un o'r ysgolion a bennir felly oni bai bod y naill beth neu'r llall yn digwydd oherwydd newid statws yr ysgol neu'r ysgolion (fel y bo'r achos) i fath gwahanol o ysgol neu ysgolion; neu

(b)os yw'r athro graddedig yn peidio a chael ei gyflogi gan y sefydliad neu'r corff a enwir yn yr argymhelliad gan eithrio —

(i)pan fydd hynny'n digwydd oherwydd newid statws yr ysgol lle'i cyflogir i fath gwahanol o ysgol, neu

(ii)pan fydd y cyflogwr a enwir yn yr argymhelliad yn awdurdod addysg lleol ac yn union ar ôl peidio â chael ei gyflogi gan yr awdurdod hwnnw mae'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg arall.

17.  Bydd y corff argymell yn peri i'r athro cofrestredig gael yn ystod cyfnod yr awdurdodiad yr hyfforddiant, y rhoddwyd y manylion amdano yn unol â pharagraff 13(4).

18.  Lle mae'r awdurdodiad yn dirwyn i ben yn rhinwedd paragraff 16(2) bydd y corff argymell yn adrodd ffeithiau'r achos i'r Cynulliad.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources