RHAN IVDARPARIAETHAU SY'N GYMWYS I YSGOLION YN UNIG
Cyflogaeth y mae Rhan IV yn gymwys iddi
8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9 bydd y rhan hon yn gymwys i gyflogi personau fel athrawon mewn ysgolion, onid ydynt yn cael eu cyflogi'n unig i ddarparu —
(a)addysg ran-amser i bersonau dros oedran ysgol gorfodol yn unig; neu
(b)addysg amser-llawn i bersonau sydd wedi cyrraedd 19 oed yn unig; neu
(c)yr addysg ran-amser a'r addysg amser-llawn honno.
9. At ddibenion y Rhan hon, mae cyflogi yn cynnwys cyflogi person i roi ei wasanaethau fel athro heblaw o dan gontract cyflogi a dehonglir cyfeiriadau at gyflogi neu at fod yn gyflogedig yn unol â hynny.
Cyflogi sydd wedi'i gyfyngu fel rheol i athrawon cymwysedig
10. Ac eithrio yn yr achosion ac o dan yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 2, ac yn ddarostyngedig i reoliadau 11, 12, 13 a 14 ni chaiff neb ei gyflogi fel athro mewn ysgol onid yw'n athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
Cyflogi athrawon disgyblion a nam ar eu clyw
11. Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwys i gael ei gyflogi mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref), onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
Cyflogi athrawon disgyblion a nam ar eu golwg
12. Yn ddarostyngedig i reoliadau 13 a 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae nam ar eu golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
Cyflogi athrawon disgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg
13.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 14, ni fydd neb yn athro cymwysedig at ddibenion cyflogaeth mewn ysgol fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt nam ar eu clyw a'u golwg (ac eithrio er mwyn rhoi hyfforddiant mewn crefft, masnach neu bwnc cartref); onid yw'n meddu ar gymhwyster y mae'r Cynulliad yn ei gymeradwyo am y tro at ddibenion y rheoliad hwn yn ychwanegol at fod yn athro cymwysedig yn unol ag Atodlen 3.
(2) Bydd person sy'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir o dan reoliad 11 neu 12 yn athro cymwysedig at y diben a grybwyllir ym mharagraff (1) er nad yw'n meddu ar gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion y paragraff hwnnw os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni nad oes unrhyw athro â chymhwyster o'r fath ar gael i addysgu'r dosbarth o dan sylw.
Cyflogi dros dro athrawon disgyblion a nam ar eu golwg neu nam ar eu clyw (neu'r ddau)
14. Gellir cyflogi person mewn ysgol arbennig fel athro dosbarth o ddisgyblion y mae ganddynt —
(a)nam ar eu clyw;
(b)nam ar eu golwg; neu
(c)nam ar eu clyw a'u golwg,
er nad yw'n athro cymwysedig yn unol â rheoliad 11, 12, neu 13(1), fel y bo'r achos, at ddibenion cyflogaeth o'r fath os yw ei gyflogwyr wedi'u bodloni ei fod yn bwriadu ennill cymhwyster a gymeradwyir gan y Cynulliad o dan reoliad 11, 12 neu 13(1), fel y bo'r achos, ar yr amod, er hynny, nad yw'r cyfnod agregedig y mae wedi'i gyflogi ar ei gyfer, mewn un neu ragor o ysgolion, fel athro'r dosbarth o ddisgyblion a grybwyllir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), fel y bo'r achos, yn fwy na thair blynedd.