xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

1999 Rhif 2815 (C.70) (Cy.16)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999

Gwnaethpwyd

28 Medi 1999

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 27(3) a (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1)

Enwi a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol 1999 (Cymru) (Cychwyn) 1999.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Llywodraeth Leol 1999.

Y darpariaethau a ddaw i rym ar 1 Hydref 1999

2.  Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 1999 —

Y darpariaethau a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2000

3.  Daw darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2000 —

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

D. Elis Thomas

Presiding Officer of the Assembly

28 Medi 1999

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Daw'r Gorchymyn hwn â darpariaethau Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (“y Ddeddf”) i rym mewn perthynas â Chymru. Mae'r darpariaethau hyn yn gosod gofynion ar awdurdodau leol ac awdurdodau eraill ynglyn â darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae adran 27(3) o'r Ddeddf yn rhoi pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod â'r darpariaethau hynny i rym mewn perthynas â Chymru cyn yr amser a bennir gan adran 27(1).

Daw Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Hydref 1999 —

Daw Erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym mewn perthynas â Chymru ar 1 Ebrill 2000 —