Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999

Rheoliad 7

ATODLEN(Darpariaethau Deddf 1996 a Deddf 1998 sy'n gymwys gydag addasiadau i ysgolion newydd)

1.  Bydd darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef —

  • adrannau 324(5)(b) a (5A) a 439 o Ddeddf 1996(1)

  • paragraff 3(4) o atodlen 27 i Ddeddf 1996(2)

  • adrannau 1, 84, 86 i 87, 92, 93(1) a (2), 94, 95 i 99, a 101, 102 a 103(3) o Ddeddf 1998,

  • paragraff 2 o Atodlen 23 (cyhyd ag y byddai'n peidio â bod yn gymwys fel arall i ysgol newydd) ac Atodlenni 24 a 25 i Ddeddf 1998, ac

  • unrhyw Reoliadau a wnaed o dan unrhyw un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (d) uchod (cyhyd ag y bônt yn ymwneud â Chymru),

yn gymwys ynglŷn ag ysgol newydd, ond yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir ym mharagraffau 2 i 8 isod.

2.  Dehonglir cyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau a bennir ym mharagraff 1 at ysgol yn un o'r categorïau canlynol, sef —

  • ysgol a gynhelir,

  • ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol,

  • ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, neu

  • ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir,

fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf.

3.  Bydd i gyfeiriad mewn unrhyw un o'r darpariaethau hynny at gorff llywodraethu ysgol effaith fel petai'n gyfeiriad at y corff llywodraethu dros dro neu (lle bo'r cyd-destun yn caniatáu hynny) at unrhyw berson arall sy'n gyfrifol am dderbyn disgyblion o dan y trefniadau derbyn cychwynnol.

4.  Dehonglir cyfeiriad yn y darpariaethau hynny at “admission arrangements” fel cyfeiriad at “drefniadau derbyn cychwynnol” fel y'u diffinir yn rheoliad 2 uchod.

5.  Bydd i adran 92(1) a (2) o Ddeddf 1998 effaith fel petai'r geiriau “the year in which pupils are first to be admitted to a new school” wedi'u rhoi yn lle “each school year”.

6.  Ni fydd adran 99 o Ddeddf 1998 yn gymwys i ysgol newydd sydd i'w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion a derfynwyd ac y mae pob un ohonynt naill ai wedi'i dynodi fel ysgol ramadeg neu y gallai fod wedi'i dynodi felly o dan adran 104 o Ddeddf 1998 ond bydd iddi effaith fel arall fel petai is-adrannau (2)(a) a (4)(a) wedi'u hepgor.

7.  Bydd i adran 101(1) effaith fel petai “the year in which pupils are first to be admitted to a new school” wedi'u rhoi yn lle'r geiriau “any year”.

8.  Bydd i adran 103(3) o Ddeddf 1998 effaith fel petai'r geiriau “(whether authorised by section 100 or section101)” wedi'u hepgor.

(1)

Diwygiwyd adran 324(5)(b), a mewnosodwyd adran 325(5A), gan baragraff 77 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998. Diwygiwyd adran 439 gan baragraff 115 o'r Atodlen honno.

(2)

Diwygiwyd paragraff 3 o Atodlen 27 gan baragraff 186 o Atodlen 30 i Ddeddf 1998.