xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LLWYBRAU'R YMUNO AC YMADAEL

Mae llwybrau'r ffyrdd ymuno ac ymadael fel a ganlyn:

1.  Cyffordd aml-lefel â'r Ffordd Merthyr wedi'i hail-linellu — (B246). (Plan Safle Rhif 1).

Dau lwybr i gysylltu lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd i'r dwyrain o Orsaf Waith Cyngor yn Llan-ffwyst (rhoddir y cyfeirnodau 1 a 2 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 1).

2.  Dau lwybr yn cysylltu lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain â'r A4143 i'r de-ddwyrain o'r fynwent yn Llan-ffwyst (rhoddir y cyfeirnodau 3 a 4 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 1).

3.  Cyffordd aml-lefel â'r B4246 wedi'i hail-linellu a Ffordd y Fenni (A4077). (Plan Safle Rhif 2).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gorllewin o Fferm Glanbaiden, i'r gogledd-orllewin o King George’s Field, Gofilon ac i'r de-ddwyrain o'r Groesffordd, Gilwern (rhoddir y cyfeirnodau 5, 6, 7 ac 8 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).

4.  Llwybr sy'n rhyw 0.1 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ogleddol Ffordd yr Orsaf, Clydach, 350 metr i'r de-ddwyrain o'i chyffordd â'r gefnffordd bresennol ac yn rhedeg tua'r gogledd-orllewin yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r gorllewin o Saleyard (rhoddir y cyfeirnod 9 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).

5.  Llwybr sy'n rhyw 0.1 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ddeheuol y Ffordd Fawr, Saleyard, 220 metr i'r gogledd-ddwyrain o'i chyffordd â Ffordd yr Eglwys ac yn rhedeg tua'r de-ddwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain i'r gorllewin o Saleyard, (rhoddir y cyfeirnod 10 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 2).

6.  Cyffordd aml-lefel â'r gylchfan bresennol ym Mryn-mawr (Plan Safle Rhif 3).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â'r gylchfan bresennol ym Mryn-mawr i'r de-orllewin o ffatri Anacomp ac i'r de a'r gorllewin o Ysgol Bryn-mawr (rhoddir y cyfeirnodau 11, 12, 13 a 14 yn ôl eu trefn) i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 3).

7.  Llwybr sy'n rhyw 0.6 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ogleddol y gefnffordd 300 metr i'r gorllewin o'r danffordd amaethyddol ac yn rhedeg tua'r gogledd-ddwyrain yn gyffredinol, ac wedyn tua'r dwyrain i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain i'r dwyrain o'r danffordd amaethyddol ar Waun Rydd, Garn Lydan, (rhoddir y cyfeirnod 15 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 4).

8.  Llwybr sy'n rhyw 0.6 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt 300 metr i'r gorllewin o'r danffordd amaethyddol ac yn rhedeg tua'r gogledd-ddwyrain i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r dwyrain o'r danffordd amaethyddol ar Waun Rydd, (rhoddir y cyfeirnod 16 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 4).

9.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd wedi'i hail-linellu i Ystad Ddiwydiannol Rasa i'r dwyrain o Ystad Ddiwydiannol Rasa (Plan Safle Rhif 5).

Dau lwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gogledd-ddwyrain o Fferm Herrington, Rasa (rhoddir y cyfeirnodau 17 a 18 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5).

10.  Llwybr sy'n rhyw 0.6 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr orllewinol y gylchfan bresennol i'r gorllewin o Nant-y-Croft ac yn rhedeg tua'r de-orllewin yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r gorllewin o'r eiddo a adeweinir fel Hirgan, (rhoddir y cyfeirnod 19 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5).

11.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd wedi'i hail-linellu i Ystad Ddiwydiannol Rasa i'r gorllewin o Ystad Ddiwydiannol Rasa (Plan Safle Rhif 5).

Un llwybr i gysylltu lôn gerbydau tua'r dwyrain i brif gefnffordd newydd â cylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gogledd-orllewin o Nant-y-Croft, Rasa (rhoddir y cyfeirnod 20 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5).

12.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r gogledd a'r A4048 sy'n arwain i'r de o'r gylchfan bresennol yn Nant-y-Bwch (Plan Safle Rhifau 5 a 6).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig yng nghyffiniau'r gylchfan bresennol yn Nant-y-Bwch (rhoddir y cyfeirnodau 21 a 22 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 5 a'r cyfeirnodau 23 a 24 ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 6).

13.  Cyffordd aml-lefel â'r A469 yn arwain i Rymni. (Plan Safle Rhif 6).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig (rhoddir y cyfeirnodau 25, 26, 27 a 28 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 6).

14.  Llwybr sy'n rhyw 1.0 cilomedr o hyd sy'n cychwyn ar bwynt ar ochr dde-ddwyreiniol y gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r brif gefnffordd newydd yn Nowlais Top (a ddisgrifir yn Atodlen 3) ac yn rhedeg tua'r de-ddwyrain yn gyffredinol a chan gynnwys y gylchfan newydd sy'n ymuno â'r gefnffordd newydd (A4060) wrth bwynt sydd ryw 30 metr i'r gogledd-ddwyrain o gyffordd yr A4060 â Stryd Blaen Dowlais (a nodir â “D” ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7) ac wedyn o bwynt ar ochr ddwyreiniol y gylchfan newydd yn mynd tua'r gogledd-ddwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r dwyrain o Gronfa Roadside Pond (rhoddir y cyfeirnod 29 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7).

15.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r gogledd i Gomin Merthyr (Plan Safle Rhif 7).

Tri llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r brif gefnffordd newydd (a ddisgrifir yn Atodlen 3) sy'n cysylltu'r Stryd Fawr â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r gogledd i'r parc manwerthu yn Nowlais Top ac ymlaen i Gomin Merthyr (rhoddir y cyfeirnodau 30, 31 a 32 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 7).

16.  Llwybr sy'n rhyw 0.3 cilomedr o hyd sy'n cychwyn o bwynt ar ochr ddwyreiniol Rocky Road 170 metr i'r dwyrain o'r gyffordd aml-lefel y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig yn y Galon Uchaf, i'r de o'r gefnffordd ac yn mynd tua'r dwyrain yn gyffredinol i gwrdd â lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r gorllewin i'r de o Ystad Ddiwydiannol y Pant (rhoddir y cyfeirnod 33 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 8).

17.  Llwybr i gysylltu lôn gerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r gefnffordd y darperir ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r de o Ystad Ddiwydiannol y Pant (rhoddir y cyfeirnod 34 i'r gefnffordd newydd ar hyd y llwybr hwn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 8).

18.  Cyffordd aml-lefel â'r ffordd ddiddosbarth sy'n arwain i'r de i Ystad y Gurnos a'r ffordd fynediad breifat i Fferm y Gurnos (Plan Safle Rhif 8).

Dau lwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, i'r gogledd o Ystad y Gurnos ac i'r dwyrain o Daf Fechan (rhoddir y cyfeirnodau 35 a 36 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 8).

19.  Cyffordd aml-lefel â Chefnffordd Caerdydd Glanconwy (A470) yn arwain i'r gogledd i Aberhonddu ac i'r de i'r Gelli-deg (Plan Safle Rhif 9).

Pedwar llwyth i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan ar lun dymbel sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r Gefnffordd Caerdydd — Glanconwy (A470) (a ddisgrifir yn Atodlen 3) yng Nghefncoedycymer (rhoddir y cyfeirnodau 37, 38, 39 a 40 yn ôl eu trefn i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 9).

20.  Cyffordd aml-lefel yn Baverstock. (Plan Safle Rhif 10).Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â dwy gylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, yn Baverstock i'r de-orllewin o Westy Baverstock ac i'r gogledd-ddwyrain o Amlosgfa Llwydcoed (rhoddir y cyfeirnodau 41, 42, 43 a 44 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 10).

21.  Cyffordd aml-lefel ger Pyllau Hirwaun (Plan Safle Rhif 11).

Pedwar llwybr i gysylltu lonydd cerbydau'r brif gefnffordd newydd tua'r dwyrain a'r gorllewin â chylchfan sydd i'w hadeiladu fel rhan o'r briffordd y bwriedir darparu ar ei chyfer mewn Gorchmynion ffyrdd ymyl cysylltiedig, yng nghyffiniau a'r gylchfan bresennol ger Pyllau Hirwaun (rhoddir y cyfeirnodau 45, 46, 47 a 48 i'r cefnffyrdd newydd ar hyd y llwybrau hyn ar y plan adneuedig ar blan safle Rhif 11).