http://www.legislation.gov.uk/wsi/1999/2641/contents/made/welsh
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 1999
Plant health
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2017-11-03
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Mae'r Gorchymyn hwn yn gweithredu Cyfarwyddeb 98/57/EC y Cyngor, ynglŷn â rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., trwy ddiwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“Gorchymyn 1993”), fel y mae'n gymwys i Gymru. Mae'r Gorchymyn hwn —yn cyflwyno mesurau pellach i reoli gwaith plannu tatws hadyd (erthygl 2(2));yn mewnosod i Orchymyn 1993 Atodlen newydd sy'n cynnwys mesurau arbennig ar gyfer rheoli ymlediad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. (erthygl 2(2) a 2(5));yn darparu ar gyfer darnodi parth i atal ymlediad Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. (erthygl 2(3));yn mewnosod y term “Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.” yn lle pob cyfeiriad at “Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith” yng Ngorchymyn 1993 (erthygl 2(4)).