http://www.legislation.gov.uk/wsi/1999/2633/contents/made/welsh
Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999
ADDYSG, CYMRU
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2015-10-15
ADDYSG, CYMRU
O 1 Medi 1999 ymlaen, rhennir ysgolion a gynhelir i'r categorïau canlynol: cymunedol; sefydledig; gwirfoddol (gan gynnwys gwirfoddol a gynorthwyir a gwirfoddol a reolir); arbennig cymunedol; ac arbennig sefydledig. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi moratoriwm o flwyddyn o 1 Medi 1999 ymlaen pan na fydd ysgolion yng Nghymru yn gallu cyhoeddi cynigion statudol i newid eu categori. Diben hynny yw sicrhau cyfnod “ymgynefino”. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu un eithriad: newid categori o wirfoddol a gynorthwyir i wirfoddol a reolir lle nad yw cyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn gallu bodloni eu rhwymedigaethau ariannol. Maent yn pennu'r gweithdrefnau i'w dilyn mewn achosion o'r fath ac yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff a materion eraill. Nodir esboniad manylach o ddarpariaethau'r Rheoliadau isod.
The Education (Change of Category of Maintained Schools) (Wales) Regulations 1999
Rheoliadau Addysg (Newid Categori Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 1999
Regulations
The Change of Category of Maintained Schools (Wales) Regulations 2001
Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001