xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

SCHEDULE 4Amendments, repeals and revocations

PART 2Secondary legislation

Diwygio Rheoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008

69.  Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cyffuriau a Reolir (Goruchwylio Rheolaeth a Defnydd) (Cymru) 2008(1) (dehongli)—

(a)yn lle’r diffiniad o “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) rhodder—

(a)ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi’i gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010;; a

(b)yn lle’r diffiniad o “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) rhodder—

(c)ystyr “fferyllfa gofrestredig” (“registered pharmacy”) yw busnes manwerthu fferyllol yng Nghymru sydd am y tro wedi’i gofnodi yn Rhan 3 o’r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Fferyllol Cyffredinol o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010 (cofrestru mangreoedd);.