SCHEDULE 10CONSEQUENTIAL AMENDMENTS TO, AND REVOCATIONS OF, SECONDARY LEGISLATION

PART 1CONSEQUENTIAL AMENDMENTS

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2002 (The National Health Service (General Medical Services Supplementary List) (Wales) Regulations 2002)9

Yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Rhestr Atodol Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 200290

a

yn rheoliad 4(2) (cais i gynnwys enw yn y rhestr atodol) yn lle is-baragraff (d), rhodder—

d

cymwysterau meddygol ac ym mhle y cafwyd hwy, a chopi o'r dystiolaeth sy'n cadarnhau bod y ceisydd—

i

yn ymarferydd cyffredinol cymwys yn unol â pharagraff 22 o Atodlen 8 i Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003, os cafodd y cais ei wneud yn ystod y cyfnod trosiannol a nodir ym mharagraff 21 o Atodlen 8 i'r Gorchymyn hwnnw, neu

ii

wedi cael cynnwys ei enw yn y Gofrestr o Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol ag erthygl 10(1) o'r Gorchymyn hwnnw, ac

b

yn rheoliad 6(2) (rhesymau dros wrthod), yn lle is-baragraff (ch) rhodder—

ch

os nad yw'n fodlon bod y meddyg—

i

yn ymarferydd cyffredinol cymwys yn unol â pharagraff 22 o Atodlen 8 i Orchymyn Ymarfer Meddygol Cyffredinol ac Arbenigol (Addysg, Hyfforddiant a Chymwysterau) 2003, os yw'r Awdurdod Iechyd neu'r Bwrdd Iechyd Lleol yn penderfynu'r cais yn ystod y cyfnod trosiannol a nodir ym mharagraff 21 o Atodlen 8 i'r Gorchymyn hwnnw, neu

ii

wedi cael cynnwys ei enw yn y Gofrestr o Ymarferwyr Cyffredinol a gedwir gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn unol ag erthygl 10(1) o'r Gorchymyn hwnnw, a