xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Mesur Addysg (Cymru) 2011

2011 mccc 7

Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer cydlafurio rhwng awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a sefydliadau addysg bellach; gwneud darpariaeth ar gyfer ffedereiddio ysgolion a gynhelir, hyfforddi llywodraethwyr a chlercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir a darparu'r cyfryw glercod; gwneud darpariaeth sy'n gwahardd ysgolion sefydledig newydd; ac at ddibenion cysylltiedig.

Mae'r Mesur hwn, a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 29 Mawrth 2011 ac a gymeradwywyd gan Ei Mawrhydi yn Ei Chyngor ar 10 Mai 2011, yn deddfu'r darpariaethau a ganlyn:—

RHAN 1LL+CCYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

1Cyrff addysgLL+C

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “corff addysg” yw—

(a)awdurdod lleol yng Nghymru;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru;

(c)corfforaeth addysg bellach (fel y diffinnir “further education corporation” gan adran 17(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992) yng Nghymru;

(d)corff llywodraethu sefydliad dynodedig (fel y diffinnir “designated institution” gan adran 28(4) o'r Ddeddf honno) yng Nghymru, sydd—

(i)yn gorff a ymgorfforwyd yn rhinwedd adran 143(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a

(ii)yn darparu addysg lawnamser yn unig neu'n bennaf i bersonau sydd dros oedran ysgol gorfodol ond nad ydynt eto'n 19 oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 1 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

2Amcan y cydlafurioLL+C

(1)Amcan y Rhan hon yw bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon gan gorff addysg mewn cysylltiad â darparu addysg a hyfforddiant sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(2)Cyfeirir at yr amcan hwn yn y Rhan hon fel “amcan y cydlafurio”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 2 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I4A. 2 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

3Dyletswydd corff addysg i gydlafurioLL+C

(1)Rhaid i gorff addysg ystyried o dro i dro a fyddai arfer ei bwerau cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau eraill.

(2)Os daw corff addysg i'r casgliad y byddai arfer pŵer cydlafurio yn hyrwyddo amcan y cydlafurio wrth iddo arfer ei swyddogaethau, rhaid iddo geisio arfer y pŵer, neu beri iddo gael ei arfer.

(3)Mae'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys i'r cyrff a grybwyllir ym mharagraffau (c) a (d) o adran 1 i'r graddau y mae'n ymwneud â darparu addysg uwchradd ac addysg bellach sy'n addas at anghenion personau nad ydynt eto'n 19 oed.

(4)Nid yw'r ddyletswydd yn is-adran (1) yn lleihau effaith y dyletswyddau yn—

(a)adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (cyflawni hawlogaethau cwricwlwm lleol ar gyfer myfyrwyr 16 i 18 oed: gweithio ar y cyd);

F1(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

F2(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

[F3(d)adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.]

4Ystyr “pwerau cydlafurio”LL+C

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “pwerau cydlafurio” yw—

(a)y pwerau yn adran 5;

(b)yn achos awdurdod lleol—

(i)ei bŵer i awdurdodi person (neu gyflogeion y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994;

(ii)ei bŵer o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol);

(iii)pŵer gweithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol arall etc);

(iv)pŵer awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol gan weithrediaeth etc awdurdod lleol arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I8A. 4 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

5Pwerau cydlafurioLL+C

(1)Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—

(a)ei ddyletswydd o dan adran 3,

(b)ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,

(c)ei ddyletswydd o dan [F4adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021,]

(d)dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.

(2)Y pwerau yw—

(a)darparu cymorth ariannol (p'un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;

(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;

(c)cydweithredu â'r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(d)arfer (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;

(e)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;

(f)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;

(g)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

(h)rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.

(3)O ran y pwerau hyn—

(a)nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a

(b)maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I10A. 5 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

6Rheoliadau ynghylch y pŵer i gydlafurioLL+C

(1)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer—

(a)yr amgylchiadau pan na fo'r ddyletswydd yn adran 3(1) yn gymwys;

(b)yr amgylchiadau pan na fo'n ofynnol i gorff addysg arfer pwerau cydlafurio, neu pan na chaniateir iddo eu harfer;

(c)swyddogaethau corff addysg na chaniateir eu dirprwyo o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(d)yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni i arfer pwerau cydlafurio;

(e)y modd y mae swyddogaethau i'w cyflawni o dan drefniadau cydlafurio;

(f)unrhyw faterion eraill sy'n berthnasol i arfer pwerau cydlafurio.

(2)Caiff rheoliadau ddarparu ar gyfer y canlynol—

(a)bod cyrff addysg yn sefydlu cyd-bwyllgor o'r cyrff hynny at ddibenion trefniadau o dan adran 5(2)(f) (“cyd-bwyllgor”);

(b)penodi personau i wasanaethu ar gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiadau o'r fath) a'u diswyddo;

(c)penodi clerc i gyd-bwyllgor (gan gynnwys darparu ynghylch y cyfyngiadau neu'r gofynion eraill sy'n ymwneud ag unrhyw benodiad o'r fath) a diswyddo'r clerc;

(d)bod cyd-bwyllgor yn penodi un o'u plith i weithredu fel clerc at ddibenion cyfarfod pan fo'r clerc yn methu â bod yn bresennol;

(e)hawliau personau i fynychu cyfarfodydd cyd-bwyllgor;

(f)cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan mewn trafodion cyd-bwyllgor;

(g)diddymu cyd-bwyllgorau;

(h)is-bwyllgorau i gyd-bwyllgorau (gan gynnwys darpariaeth i swyddogaethau'r cyd-bwyllgor gael eu harfer gan is-bwyllgor a darpariaeth mewn perthynas ag is-bwyllgorau y caniateir ei gwneud mewn perthynas â chyd-bwyllgor o dan yr adran hon);

(i)materion eraill sy'n ymwneud â chyfansoddiad neu weithdrefn cyd-bwyllgor.

(3)Mae'r pŵer yn is-adran (4) yn gymwys mewn perthynas â'r canlynol—

(a)swyddogaethau'r cyrff addysg sydd i'w cyflawni o dan baragraffau (d), (e) ac (f) o adran 5(2);

(b)y cyrff addysg y mae'r swyddogaethau hynny i'w cyflawni ganddynt.

(4)Caiff rheoliadau ddarparu bod unrhyw ddeddfiad i gael effaith yn ddarostyngedig i'r holl addasiadau angenrheidiol yn y modd y mae'n gymwys mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny a'r cyrff y maent i'w cyflawni ganddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 6 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I12A. 6 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

7CanllawiauLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, rhaid i gorff addysg roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 7 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I14A. 7 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

8Dehongli'r Rhan honLL+C

Yn y Rhan hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 8 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I16A. 8 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

9Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadolLL+C

(1)Yn adran 57(5A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, yn lle “make collaboration arrangements (within the meaning of section 166 of the Education and Inspections Act 2006) with such bodies” rhodder “exercise powers under section 5(2)(b) to (f) and (h) of the Education (Wales) Measure 2011 to collaborate with such persons”.

(2)Yn adran 33K(5) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000—

(a)ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

(ba)arrangements made in exercise of the powers of collaboration described in section 4 of the Education (Wales) Measure 2011.;

(b)hepgorer paragraffau (c) a (d).

(3)Yn Neddf Addysg 2002—

(a)yn adran 26(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;

F5(b). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Yn adran 166(6) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006—

(a)yn y diffiniad o “further education body”—

(i)ar ôl “(c.13))” mewnosoder “in England”;

(ii)ar ôl “section 28(4) of that Act)” mewnosoder “in England”;

(b)yn y diffiniad o “maintained school” ar ôl “means” mewnosoder “a school in England which is”;

(c)yn y diffiniad o “regulations” hepgorer “or the Assembly (in relation to Wales)”.

Diwygiadau Testunol

F5A. 9(3)(b) wedi ei hepgor (30.4.2021) yn rhinwedd Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (asc 4), a. 84(1), Atod. 2 para. 67 (ynghyd â savings ac transitional provisions in O.S. 2022/111, rhlau. 1, 3)

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 9 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I18A. 9 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2

RHAN 2LL+CLLYWODRAETHU YSGOLION

PENNOD 1LL+CFFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR

10Ffedereiddio ysgolion gan gyrff llywodraethuLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gyrff llywodraethu—

(a)dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir,

(b)ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir, neu

(c)dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.

(2)Caiff cyrff llywodraethu ddarparu i'w priod ysgolion gael eu ffedereiddio.

(3)Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i'r canlynol—

(a)cydymffurfio ag unrhyw amodau rhagnodedig, a

(b)arfer y pŵer yn unol ag unrhyw weithdrefn ragnodedig.

11Cynigion gan awdurdodau lleol i ffedereiddio ysgolionLL+C

(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i ffedereiddio—

(a)dwy neu ragor o ysgolion a gynhelir;

(b)ffederasiwn sy'n bodoli eisoes ac un neu ragor o ysgolion a gynhelir;

(c)dau neu ragor o ffederasiynau sy'n bodoli eisoes.

(2)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi cynigion a wneir o dan yr adran hon.

(3)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â'r personau canlynol ar y cynigion a gyhoeddir—

(a)cyrff llywodraethu ysgolion neu ffederasiynau i'w ffedereiddio;

(b)staff yr ysgolion;

(c)un neu ragor o gyrff (os oes) yr ymddengys i'r awdurdod eu bod yn cynrychioli buddiannau staff yr ysgolion;

(d)i'r graddau y mae'n ymarferol, disgyblion a gofrestrwyd yn yr ysgolion a'u rhieni.

(4)Nid yw is-adran (2) na (3) yn gymwys mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig.

(5)Mewn perthynas â chynnig ar gyfer ffederasiwn a ffurfir o ysgolion bach yn unig, rhaid i'r awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, ymgynghori â chyrff llywodraethu'r ysgolion dan sylw.

(6)Ystyr “ysgol fach” yn is-adrannau (4) a (5) yw ysgol a gynhelir sydd, ar y dyddiad y gwneir y cynnig o dan is-adran (1), yn ysgol fach a gynhelir yn ôl y diffiniad mewn gorchymyn o dan adran 15.

(7)Rhaid i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, benderfynu p'un ai—

(a)cadarnhau cynigion, gyda neu heb addasiad neu'n ddarostyngedig i ddigwyddiad, neu

(b)eu tynnu'n ôl.

(8)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol a gynhelir a honno'n ysgol nad yw'n ei chynnal cyhyd â bod yr awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol yn cydsynio.

(9)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion ar gyfer ffederasiwn sy'n cynnwys ysgol sefydledig neu wirfoddol cyhyd â bod y personau canlynol yn cydsynio—

(a)yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr awdurdod esgobaethol priodol, a

(b)yn achos unrhyw ysgol sefydledig neu wirfoddol arall, y person neu'r personau y penodwyd y llywodraethwyr sefydledig ganddynt.

(10)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch cynigion o dan yr adran hon ac (ymhlith pethau eraill) gwneud darpariaeth ynghylch—

(a)sicrhau cydsyniad personau rhagnodedig i wneud, cyhoeddi neu gadarnhau cynigion;

(b)yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y cynigion, neu sydd i'w darparu mewn perthynas â hwy;

(c)cyhoeddi cynigion;

(d)ymgynghori ynghylch y cynigion;

(e)gwneud gwrthwynebiadau i'r cynigion neu sylwadau ar y cynigion;

(f)tynnu'r cynigion yn ôl neu eu haddasu;

(g)y modd y mae'r awdurdod lleol i gadarnhau'r cynigion.

12Gweithredu cynigion o dan adran 11LL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gynigion o dan adran 11.

(2)Rhaid i gynigion sydd wedi eu cadarnhau gael eu gweithredu gan y personau a grybwyllir yn is-adran (3), yn ôl eu trefn, i'r graddau (os o gwbl) y mae'r cynigion yn darparu i bob un ohonynt wneud hynny.

(3)Dyma'r personau—

(a)yr awdurdod lleol sy'n cynnal ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;

(b)corff llywodraethu ysgol sy'n ddarostyngedig i'r cynigion;

(c)unrhyw bersonau eraill a ragnodir.

(4)Rhaid gweithredu cynigion sydd wedi eu cadarnhau fel y'u cadarnhawyd, yn ddarostyngedig i'r is-adrannau a ganlyn.

(5)Ar gais personau rhagnodedig, caiff yr awdurdod lleol a wnaeth y cynigion—

(a)addasu'r cynigion ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau a ragnodir, a

(b)os cafodd unrhyw gadarnhad ei roi yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i'r digwyddiad o dan sylw ddigwydd.

(6)Caiff awdurdod lleol a wnaeth y cynigion benderfynu bod is-adran (2) i beidio â bod yn gymwys i'r cynigion os caiff ei fodloni—

(a)y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd, neu

(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i'r cadarnhad gael ei roi y byddai'n amhriodol gweithredu'r cynigion.

(7)Os yw'n ofynnol o dan reoliadau iddo wneud hynny, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori neu sicrhau cydsyniad unrhyw bersonau a ragnodir cyn gwneud penderfyniad o dan is-adran (6).

13Corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynauLL+C

O ran ffederasiwn—

(a)rhaid bod ganddo gorff llywodraethu sengl sydd wedi ei gyfansoddi o dan offeryn llywodraethu sengl;

(b)mewn achosion rhagnodedig, rhaid iddo gael ei drin fel ysgol sengl at ddibenion unrhyw ddeddfiadau a ragnodir, ac eithrio unrhyw ddeddfiad a gynhwysir [F6yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)]

14Rheoliadau mewn perthynas â ffederasiynauLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch diddymu cyrff llywodraethu adeg ffurfio ffederasiwn;

(b)sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn i barhau i fodoli fel corff corfforaethol pan fo un neu ragor o ysgolion yn ymuno â'r ffederasiwn neu'n ymadael ag ef;

(c)ynghylch ym mha amgylchiadau ac ym mha fodd y caniateir i ffederasiwn gael ei ddiddymu, neu i un neu ragor o ysgolion ymadael â ffederasiwn;

(d)sy'n galluogi corff llywodraethu ffederasiwn a ddiddymwyd i gael ei ddisodli naill ai gan gyrff llywodraethu ar gyfer pob un o'r ysgolion cyfansoddol neu gan gyrff llywodraethu sy'n cynnwys corff llywodraethu ffederasiwn newydd;

(e)ynghylch y trosi o un corff llywodraethu i un arall;

(f)ynghylch trosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau rhwng cyrff llywodraethu, neu rhwng awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu;

(g)ynghylch unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â ffederasiynau, ysgolion ffederal neu ffurfio neu ddiddymu ffederasiynau y mae Gweinidogion Cymru yn barnu eu bod yn briodol.

(2)Caiff rheoliadau a wneir yn rhinwedd is-adran (1)(f) mewn perthynas â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau—

(a)darparu bod materion rhagnodedig yn cael eu penderfynu gan Weinidogion Cymru,

(b)cymhwyso gydag addasiadau unrhyw ddarpariaeth yn Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (darpariaethau atodol mewn cysylltiad â throsglwyddiadau o dan y Ddeddf honno), neu

(c)gwneud darpariaeth sy'n cyfateb i'r hyn a wnaed gan unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen honno.

15Dull adnabod at ddibenion y Bennod hon ysgolion bach a gynhelir yng NghymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy orchymyn i ddiffinio ysgol fach a gynhelir drwy gyfeirio at nifer penodedig o ddisgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn ysgol ar ddyddiad penodedig mewn unrhyw flwyddyn.

(2)Mae gorchymyn o dan yr adran hon yn gymwys at ddibenion darpariaeth o dan y Bennod hon.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn gorchymyn a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Rhagolygol

F716Ffedereiddio ysgolion sy'n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion CymruLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F7A. 16 wedi ei hepgor (20.2.2014) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 13(2); O.S. 2014/178, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)

Gwybodaeth Cychwyn

I25A. 16 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

17Canllawiau a roddir gan Weinidogion CymruLL+C

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

18Ffederasiynau: darpariaethau atodolLL+C

(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth at ddibenion y Bennod hon i addasu unrhyw ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn—

[F8(a)Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu]

(b)adrannau 49 i 51 [F9o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998], ac Atodlen 15 iddi (dirprwyo ariannol),

wrth gymhwyso'r ddarpariaeth i ysgolion ffederal neu eu cyrff llywodraethu.

(2)Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (1) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, addasiadau—

(a)sy'n galluogi'r pwerau a roddwyd gan y darpariaethau y cyfeiriwyd atynt yn yr is-adran honno i gael eu harfer mewn perthynas â'r holl ysgolion mewn ffederasiwn hyd yn oed os nad yw'r amgylchiadau, y mae'r pwerau yn arferadwy drwy gyfeirio atynt, yn bodoli ond mewn perthynas ag un neu ragor o'r ysgolion hynny, a

(b)sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosrannu unrhyw gostau neu dreuliau a dynnir gan gorff llywodraethu ffederasiwn.

(3)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy'n addasu unrhyw ddeddfiad sy'n ymwneud ag ysgolion o fewn categori penodol, neu â chyrff llywodraethu ysgolion o fewn categori penodol, wrth gymhwyso'r deddfiad i ysgolion sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn neu i gyrff llywodraethu ffederasiynau.

(4)Yn is-adran (3), mae cyfeiriadau at gategorïau o ysgolion a gynhelir yn gyfeiriadau at y categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

19Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2002LL+C

(1)Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19—

(a)yn is-adran (8), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;

(b)ar ôl is-adran (8), mewnosoder—

(9)In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under this section may include provision with respect to the governing bodies of federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).

(3)Yn adran 20—

(a)yn is-adran (4), o flaen “Subsection (1)” mewnosoder “In relation to maintained schools in England,”;

(b)ar ôl is-adran (4), mewnosoder—

(4A)In relation to maintained schools in Wales, subsection (1) has effect subject to Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011; and regulations under subsection (2) may include provision with respect to instruments of government for federations (within the meaning of section 21(1) of that Measure).

(4)Yn adran 24—

(a)yn is-adran (1)(a), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (1)(b), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;

(c)yn is-adran (2), ar ôl “schools” mewnosoder “in England”;

(d)yn is-adran (4)(g) hepgorer “, or as the case may be the National Assembly for Wales,”;

(e)yn is-adran (5)(a) hepgorer “or the National Assembly for Wales”.

(5)Yn adran 25(1)—

(a)hepgorer paragraff (a);

(b)ym mharagraff (b), ar ôl “federated schools” mewnosoder “in England”.

(6)Yn adran 39(1), ar ôl “federated school” mewnosoder “in relation to England”.

(7)Ym mharagraff 5 o Atodlen 1, ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A)Sub-paragraph (1) does not apply if—

(a)the school is a federated school in Wales, and

(b)immediately after the discontinuance date, there will be more than one other school remaining in the federation.

(1B)“Federation” in sub-paragraph (1A) means a group of schools that are federated by virtue of Chapter 1 of Part 2 of the Education (Wales) Measure 2011 or were federated by virtue of section 24 before the coming into force of that Chapter, and “federated school” means a school forming part of a federation.

F1020Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

21Dehongli'r Bennod honLL+C

(1)Yn y Bennod hon—

(2)Mewn unrhyw ddeddfiad—

(a)mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn, a

(b)mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu'r ffederasiwn.

PENNOD 2LL+CHYFFORDDIANT I LYWODRAETHWYR A CHLERCOD A DARPARU CLERCOD

22Gwybodaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac am ddim, i bob llywodraethwr unrhyw wybodaeth y mae'r awdurdod lleol yn barnu ei bod yn briodol mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau llywodraethwr.

(2)Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r graddau nad yw'n ofynnol fel arall i'r awdurdod lleol sicrhau bod y cyfryw wybodaeth yn cael ei darparu.

(3)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau y darperir, yn rhad ac ddim, hyfforddiant rhagnodedig i lywodraethwyr rhagnodedig ysgolion a gynhelir.

(4)Caniateir i hyfforddiant gael ei ragnodi drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru.

(5)Nid yw gofynion rheoliadau o dan is-adran (3) yn lleihau effaith y ddyletswydd a ganlyn.

(6)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'n barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob llywodraethwr, yn rhad ac am ddim, er mwyn i swyddogaethau'r llywodraethwr gael eu cyflawni'n effeithiol.

(7)Yn yr adran hon, ystyr “llywodraethwr” yw llywodraethwr ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

(8)Yn adran 22 o Ddeddf Addysg 2002, ar ôl “authority” mewnosoder “in England”.

Gwybodaeth Cychwyn

I31A. 22 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I32A. 22 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

23Dyletswydd awdurdodau lleol i ddarparu clercod i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru hysbysu, o dro i dro, bob corff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 y caiff y corff hwnnw ofyn i'r awdurdod ddarparu person i'w benodi'n glerc.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru ddarparu person i'w benodi os gwneir cais.

(3)Caiff y rheoliadau (ymhlith pethau eraill)—

(a)rhoi pŵer i awdurdod lleol godi ffi am ddarparu person (gan gynnwys pŵer i godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol);

(b)rhagnodi'r person y mae'n rhaid i'r ffi gael ei thalu drwyddo;

(c)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I33A. 23 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I34A. 23 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

24Hyfforddiant i glercod cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelirLL+C

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys mewn perthynas â chorff y mae'n ofynnol iddo benodi clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002.

(2)Caiff rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i'r corff sicrhau bod person a benodir yn glerc wedi cwblhau hyfforddiant rhagnodedig yn ôl safon ragnodedig.

(3)Caiff y rheoliadau—

(a)gwahardd penodi person nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol;

(b)darparu bod person a benodwyd yn glerc, ac nad yw wedi cwblhau'r hyfforddiant, yn cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn cyfnod rhagnodedig;

(c)darparu ar gyfer terfynu penodiad clerc nad yw'n cwblhau'r hyfforddiant yn ôl y safon ofynnol o fewn y cyfnod hwnnw;

(d)rhagnodi hyfforddiant a safonau drwy gyfeirio at ddogfen a gyhoeddir, fel a bennir yn y rheoliadau, gan Weinidogion Cymru;

(e)darparu ar gyfer eithriadau ac esemptiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I35A. 24 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I36A. 24 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

25Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercodLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.

(2)Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).

(3)Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I37A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I38A. 25 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2

RHAN 3LL+CYSGOLION SEFYDLEDIG

F1226Gwahardd sefydlu ysgolion sefydledig newyddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F12Aau. 26-30 wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(6); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I39A. 26 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

F1227Gwahardd newid categori i ysgol sefydledigLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F12Aau. 26-30 wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(6); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 27 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

F1228Arbedion: cynigion i sefydlu ysgolion sefydledig newyddLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F12Aau. 26-30 wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(6); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I41A. 28 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

F1229Arbedion: cynigion i newid categori i ysgol sefydledigLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F12Aau. 26-30 wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(6); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 29 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

F1230Pwerau atodolLL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

F12Aau. 26-30 wedi eu hepgor (1.10.2013) yn rhinwedd Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (anaw 1), a. 100(4), Atod. 5 para. 29(6); O.S. 2013/1800, ergl. 3(j)

Gwybodaeth Cychwyn

I43A. 30 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

RHAN 4LL+CCYFFREDINOL

31Dehongli'n gyffredinolLL+C

(1)Yn y Mesur hwn—

(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel petai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(3)Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr gwahanol i ymadrodd i'r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, bydd yr ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno yn gymwys yn lle'r un a roddwyd at ddibenion y Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 31 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

32Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achos, ardaloedd gwahanol neu ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos yn unig;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn a wneir o dan adran 15 neu 30 yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I45A. 32 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

33CychwynLL+C

(1)Mae darpariaethau canlynol y Mesur hwn yn dod i rym ar ddiwedd cyfnod o ddeufis sy'n dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)adrannau 26 i 32;

(b)yr adran hon;

(c)adran 34.

(2)Daw gweddill darpariaethau'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 33 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)

34Enw byr a chynnwys y Mesur yn y Deddfau AddysgLL+C

(1)Enw'r Mesur hwn yw Mesur Addysg (Cymru) 2011.

(2)Mae'r Mesur hwn i'w gynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a osodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

Gwybodaeth Cychwyn

I47A. 34 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)