(1)Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—
(a)ei ddyletswydd o dan adran 3,
(b)ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,
(c)ei ddyletswydd o dan [F1adran 65 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021,]
(d)dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.
(2)Y pwerau yw—
(a)darparu cymorth ariannol (p'un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;
(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;
(c)cydweithredu â'r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;
(d)arfer (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;
(e)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;
(f)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;
(g)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;
(h)rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.
(3)O ran y pwerau hyn—
(a)nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a
(b)maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 5(1)(c) wedi eu hamnewid (1.9.2022 at ddibenion penodedig) gan Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(3), Atod. 2 para. 12(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)
I2A. 5 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2