RHAN 1LL+CCYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

5Pwerau cydlafurioLL+C

(1)Mae gan gorff addysg y pwerau yn is-adran (2) er mwyn cyflawni neu ei gwneud yn hwylus i gyflawni—

(a)ei ddyletswydd o dan adran 3,

(b)ei ddyletswydd o dan adran 33K o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000,

(c)ei ddyletswydd o dan adran 116J o Ddeddf Addysg 2002, neu

(d)dyletswydd corff addysg arall o dan y darpariaethau hynny.

(2)Y pwerau yw—

(a)darparu cymorth ariannol (p'un ai ar ffurf grant neu fenthyciad) i unrhyw berson;

(b)ymrwymo i drefniadau neu gytundebau ag unrhyw berson;

(c)cydweithredu â'r person hwnnw, neu hwyluso neu gydgysylltu ei weithgareddau;

(d)arfer (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd) unrhyw un neu rai o swyddogaethau unrhyw berson ar ran y person hwnnw;

(e)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gydag un neu ragor o gyrff addysg eraill, neu gan un neu ragor o gyrff addysg eraill;

(f)gwneud trefniadau i unrhyw un neu rai o swyddogaethau'r corff addysg gael ei gyflawni neu eu cyflawni gan gyd-bwyllgorau dau neu ragor o gyrff addysg;

(g)darparu staff, nwyddau, gwasanaethau neu lety i unrhyw berson;

(h)rhannu a defnyddio gwybodaeth er mwyn arfer unrhyw bwerau cydweithio.

(3)O ran y pwerau hyn—

(a)nid ydynt yn lleihau effaith unrhyw bwerau eraill corff addysg, a

(b)maent yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir o dan adran 6.