RHAN 1LL+CCYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

4Ystyr “pwerau cydlafurio”LL+C

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “pwerau cydlafurio” yw—

(a)y pwerau yn adran 5;

(b)yn achos awdurdod lleol—

(i)ei bŵer i awdurdodi person (neu gyflogeion y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994;

(ii)ei bŵer o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol);

(iii)pŵer gweithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol arall etc);

(iv)pŵer awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol gan weithrediaeth etc awdurdod lleol arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 4 mewn grym ar 16.11.2012 gan O.S. 2012/2656, ergl. 2