RHAN 1CYDLAFURIO GAN GYRFF ADDYSG

4Ystyr “pwerau cydlafurio”

At ddibenion y Rhan hon, ystyr “pwerau cydlafurio” yw—

(a)

y pwerau yn adran 5;

(b)

yn achos awdurdod lleol—

(i)

ei bŵer i awdurdodi person (neu gyflogeion y person) i arfer swyddogaeth ar ran yr awdurdod o dan orchymyn a wnaed o dan adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994;

(ii)

ei bŵer o dan adran 101(1)(b) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol);

(iii)

pŵer gweithrediaeth yr awdurdod (neu bwyllgor neu aelod penodedig o'r weithrediaeth) i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth awdurdod lleol gan awdurdod lleol arall etc);

(iv)

pŵer awdurdod i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod lleol gan weithrediaeth etc awdurdod lleol arall).