RHAN 4CYFFREDINOL
32Gorchmynion a rheoliadau
(1)
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)
Mae unrhyw bŵer gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—
(a)
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol o achos, ardaloedd gwahanol neu ddibenion gwahanol;
(b)
i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu'n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol o achos yn unig;
(c)
i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed fel y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
(3)
Mae unrhyw offeryn statudol sy'n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Mesur hwn neu orchymyn a wneir o dan adran 15 neu 30 yn ddarostyngedig i'w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.