RHAN 4CYFFREDINOL
31Dehongli'n gyffredinol
(1)
Yn y Mesur hwn—
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol, pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud—
(a)
Deddf Seneddol;
(b)
Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)
is-ddeddfwriaeth yn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(d)
darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu Fesur neu is-ddeddfwriaeth o'r fath;
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
(2)
Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel petai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
(3)
Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr gwahanol i ymadrodd i'r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, bydd yr ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno yn gymwys yn lle'r un a roddwyd at ddibenion y Ddeddf honno.