RHAN 3YSGOLION SEFYDLEDIG
30Pwerau atodol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg drwy orchymyn, wneud—
(a)
darpariaeth atodol, cysylltiedig neu ganlyniadol, neu
(b)
darpariaeth drosiannol, darpariaeth dros dro neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Dim ond os yw Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion adrannau 26 i 29, o ganlyniad i'r adrannau hynny, neu er mwyn rhoi effaith lawn iddynt, y cânt wneud y cyfryw ddarpariaeth.
(3)
Caiff gorchymyn, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth sy'n diwygio neu'n dirymu unrhyw is-ddeddfwriaeth (o fewn ystyr Deddf Dehongli 1978) sydd wedi ei gwneud cyn pasio'r Mesur hwn.